Mae Siarter newydd sydd wedi'i chynllunio i helpu sefydliadau ledled Gwent i gryfhau’r ffordd y maent yn ymdrin â iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad wedi cael ei lansio gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Gwent ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae Siarter Iechyd Meddwl a Lles Melo yn darparu fframwaith ymarferol ar gyfer sefydliadau fel y gallant gefnogi iechyd meddwl a lles eu staff a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae cynllun peilot y siarter newydd hon wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) a Chyngor Sir Fynwy (MCC). Mae’r ddau sefydliad bellach wedi llofnodi'r siarter newydd.
Mae'r Siarter yn annog sefydliadau i greu amgylcheddau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu siarad yn agored am iechyd meddwl, yn gallu cael mynediad at gymorth ac yn gallu adnabod pan fydd rhywun yn cael trafferth. Mae hefyd yn cefnogi sefydliadau i gryfhau eu cyfraniad at atal hunanladdiad trwy ymwybyddiaeth, hyfforddiant a mynediad at gymorth.
Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a Phartneriaethau Strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
"Mae iechyd meddwl ac atal hunanladdiad yn fusnes i bawb. Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth greu gweithleoedd a chymunedau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gysylltiedig, yn cael eu cefnogi ac yn gallu siarad pan fydd pethau'n anodd.
"Mae Siarter Melo yn rhoi fframwaith ymarferol i sefydliadau droi'r ymrwymiad hwnnw'n gamau gweithredu. Rydym wrth ein bodd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Sir Fynwy wedi ein helpu i dreialu'r Siarter a dyma'r sefydliadau cyntaf i'w llofnodi.
"Gan adeiladu ar y gwaith hwn, rydym bellach yn gweithio gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol eraill ledled Gwent i gyflwyno'r Siarter yn ehangach, gan helpu sefydliadau i gryfhau eu cyfraniad at iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad."
Dywedodd y Cynghorydd James Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
"Rydym yn falch iawn o fod y sefydliad cyntaf yng Ngwent i lofnodi Siarter Iechyd Meddwl a Lles Melo. "Mae cefnogi lles ein gweithwyr a’n cymunedau yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor. Bydd y Siarter yn ein helpu i adeiladu ar y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud a chryfhau ein dull o ymdrin ag iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad."
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi llofnodi Siarter Iechyd Meddwl a Lles Melo. Mae cefnogi’r siarter a hyrwyddo Melo yn un o’r ffyrdd y gallwn helpu pobl i reoli eu iechyd a’u lles eu hunain. Mae hyn wrth galon ein gwerthoedd ac yn o’r ymrwymiadau yr ydym wedi’i wneud yn ein Strategaeth Pobl ac mae’n fodd o gryfhau ein dull o ymdrin â iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad ar gyfer y gymuned gyfan yn ogystal â’n gweithlu ein hunain."
Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Gwent yn gweithio gyda phartneriaid o fewn awdurdodau lleol eraill ledled Gwent i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Siarter yn ehangach.