Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau Brechiad Atgyfnerthu Hydref Galw Heibio ar gael ar gyfer pobl hŷn na 65 oed

Os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn, gallwch nawr gerdded i mewn i unrhyw un o’n safleoedd brechiadau a derbyn Brechiad Atgyfnerthu Hydref Covid-19 heb apwyntiad yn ystod yr amseroedd ac ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2022: 9:30am – 19:30pm

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022: 9:30am – 16:30pm

Dydd Iau 8 Rhagfyr 2022: 9:30am – 19:30pm

Dydd Gwener 9 Rhagfyr: 9.30am-16:30pm

Dewch o hyd i restr o’n safleoedd yma: Getting Vaccinated - Aneurin Bevan University Health Board (nhs.wales)

Sylwch, i fod yn gymwys ar gyfer Brechiad Atgyfnerthu Hydref galw heibio bydd angen i’r canlynol fod yn wir:

  • Rydych yn 65 oed neu’n hŷn
  • Nid ydych wedi derbyn brechiad COVID-19 ers 1 Medi 2022
  • Nid ydych wedi cael canlyniad positif COVID-19 (mae hyn yn cynnwys PCR a phrofion llif unffordd) yn ystod y 28 diwrnod diwethaf

 

Manteisiwch ar y cyfle hwn i amddiffyn eich hun y Gaeaf hwn, mae’n bwysig iawn ar gyfer ein cleifion, ein cymunedau a’n hanwyliaid.