Neidio i'r prif gynnwy

Mis Cenedlaethol Gwenu: Chwalu Mythau Cyffredin am Ddannedd a'r Deintgig

Mis Cenedlaethol Gwenu yw'r amser perffaith i chwalu rhai o'r mythau mwyaf cyffredin am ddannedd a’r deintgig. Gall camwybodaeth arwain at arferion iechyd y geg gwael, ond y newyddion da yw nad oes rhaid i edrych ar ôl eich gwên fod yn gymhleth. Isod, rydym yn dangos beth sy’n fyth a beth sy’n ffaith ac yn rhannu awgrymiadau syml, ymarferol i helpu i gadw'ch ceg yn iach.
 

Myth: Mae fflworid mewn past dannedd yn ddrwg i chi

Ffaith: Mae fflworid wedi cael ei astudio ers degawdau lawer ac mae wedi'i brofi i fod yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae'n cryfhau enamel dannedd ac yn helpu i amddiffyn rhag pydredd dannedd. Mae defnyddio past dannedd fflworid ddwywaith y dydd yn un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i'ch dannedd.
 

Myth: Nid oes gan ddiabetes Math 1 neu Math 2 unrhyw beth i'w wneud â'ch ceg

Ffaith: Mae cysylltiad agos rhwng diabetes ac iechyd y deintgig. Gall clefyd y deintgig wneud diabetes yn anoddach i'w reoli, a gall peidio â rheoli diabetes yn effeithiol wneud clefyd y deintgig yn waeth. Os oes gennych ddiabetes math 1 neu fath 2 ac nad ydych wedi cael gwiriad iechyd y deintgig, mae'n bwysig gwneud hynny. Gall glanhau rhwng eich dannedd bob dydd gyda floss neu frwsys rhyng-ddeintyddol helpu i wella iechyd deintgig a rheoli diabetes.
 

Myth: Mae gwaedu deintgig yn normal

Ffaith: Ni ddylai deintgig iach waedu. Mae deintgig sy’n gwaedu yn aml yn arwydd cynnar o glefyd y deintgig ac ni ddylid byth ei anwybyddu.

Beth sy'n helpu?
Brwsio ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid a glanhau rhwng eich dannedd bob dydd gyda floss neu brwsys rhyng-ddeintyddol.
 

Myth: Mae brwsio'n galetach yn glanhau'n well

Ffaith: Gall brwsio rhy galed niweidio'r enamel ac achosi llid yn eich deintgig. Y dull gorau yw brwio’n ysgafn ond yn drylwyr - digon cadarn i lanhau, ond nid mor galed fel ei fod yn brifo.
 

Myth: Nid yw dannedd babi yn bwysig oherwydd eu bod yn cwympo allan beth bynnag

Ffaith: Mae dannedd babi yn chwarae rhan bwysig wrth fwyta, siarad ac arwain dannedd oedolion i'r lle cywir. Mae eu cadw'n iach yn bwysig.
 

Myth: Mae colli dannedd yn rhan o fynd yn hŷn

Ffaith: Nid yw colli dannedd yn anochel. Trwy ofalu am y geg bob dydd a chael archwiliadau deintyddol rheolaidd, gall dannedd bara am oes.
 

Myth: Os yw fy neintgig yn gwaedu, fe ddylwn roi'r gorau i frwsio

Ffaith: Na . Os yw’r deintgig yn gwaedu, fel arfer caiff hyn ei achosi gan blac sydd wedi cronni. Dylid dal ati i frwsio a glanhau rhwng y dannedd, gan gymryd mwy o ofal a cheisio cael gwared ar blac yn drylwyr.
 

Myth: Mae rinsio â dŵr ar ôl brwsio yn iawn

Ffaith: Ar ôl brwsio, poeri past dannedd dros ben ond peidiwch â rinsio â dŵr. Mae hyn yn caniatáu i'r fflworid aros ar eich dannedd am gyfnod hirach a pharhau i'w hamddiffyn.
 

Myth: Dylech wlychu'ch brws dannedd cyn brwsio

Ffaith: Brwsh dannedd sych yw'r gorau. Gall gwlychu'r brwsh wanhau'r past dannedd, gan wneud y fflworid yn llai effeithiol.
 

Mae’r mis hwn yn Fis Cenedlaethol Gwenu, cymerwch eiliad i wirio eich trefn iechyd y geg. Gall newidiadau bach i arferion dydd i ddydd wneud gwahaniaeth mawr i'ch gwên a'ch iechyd cyffredinol.