Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Arbenigol Canser yr Ysgyfaint y Bwrdd Iechyd yn Cyrraedd Rownd Derfynol Gwobr Menywod sy'n Ysbrydoli

Dydd Llun 26 Medi 2022

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Nyrs Arbenigol Canser yr Ysgyfaint yn y Bwrdd Iechyd, Carol Davies, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022 – gwobr Gymreig a ddyfarnwyd i fenywod sy'n ysbrydoli.

Mae Carol, sydd wedi’i henwebu yn y categori Menyw o fewn Iechyd a Gofal am ei chyfraniad eithriadol, wedi gweithio fel Arbenigwr Nyrsio Canser yr Ysgyfaint Macmillan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers 2003. Wedi’i lleoli yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, mae Carol yn aelod allweddol o dîm Nyrsys Canser yr Ysgyfaint arbenigol y Bwrdd Iechyd, sy'n cefnogi cleifion trwy gydol eu diagnosis a thaith o ganser yr ysgyfaint.

Hawdd yw gweld angerdd Carol am ei swydd a'i chydweithwyr. Wrth siarad am ei rôl, dywedodd: “Mae’r rôl wedi datblygu cymaint dros yr amser rydw i wedi bod ynddi. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â thîm amlddisgyblaethol rhagweithiol a brwdfrydig anhygoel.”

 

Mae gan Carol digonedd o wybodaeth a diddordeb yn yr arbenigedd Canser yr Ysgyfaint, ar ôl bod yn aelod o’r fforwm ac yn gyn-gadeirydd Fforwm Canser yr Ysgyfaint Cymru Gyfan (AWLCF). Mae hi wedi ysbrydoli llawer o gydweithwyr yn lleol o fewn ei rôl, ond mae hefyd wedi dylanwadu ar bartneriaid gofal iechyd ledled y byd, ar ôl cyflwyno yng Nghynhadledd Y Byd ar Ganser yr Ysgyfaint yn Denver yn 2015. Mae hi hefyd wedi bod yn aelod o fforwm Nyrsys yr Ysgyfaint y DU (LCNUK) ers 2004, ac roedd yn aelod allweddol o'r pwyllgor o 2012 i 2021.

Ynghyd â’i rôl amser llawn fel Nyrs Arbenigol, mae’r profiadau hyn wedi rhoi cipolwg arbenigol i Carol ar ymarfer Canser yr Ysgyfaint, y mae’n ei ganmol am wella ei hyder a hybu ei datblygiad proffesiynol, yn ogystal â chaniatáu iddi siapio a dylanwadu ar newid gwasanaethau.

Yn ystod Pandemig Covid-19, bu Carol hefyd yn cefnogi gwasanaeth Olrhain Gwent ochr yn ochr â’i rôl Nyrsio. Wrth fyfyrio ar y profiad, dywedodd: “Roedd yn anhygoel gweld gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn uno adnoddau mewn ffordd mor gyflym ac effeithiol.”

Mae cyflawniadau Carol yn golygu y mae hi'n addas iawn i ennill wobr Womenspire, sy'n cydnabod cyfraniad anhygoel menywod ledled Cymru sy'n ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn cefnogi menywod eraill i gyflawni.

 

Wrth ddysgu ei bod wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Carol:

“Pan dderbyniais yr enwebiad, y geiriau a ddefnyddiwyd oedd bod 'y wobr hon ar gyfer menywod ysbrydoledig'. Mae cael fy ystyried yn fenyw sy'n ysbrydoli yn.. wel, mae'n amhosib rhoi mewn geiriau pa mor falch dw i'n teimlo a'r fath o anrhydedd yw hi. Mae'n rhyfeddol.

“Er fy mod yn cydnabod bod yr enwebiad hwn ar gyfer menywod ysbrydoledig a ‘fi’ sydd wedi’i enwebu, nid dim ond i mi yw hi – mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o gleifion canser yr ysgyfaint ac o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac yn amlygu’r gwasanaeth rhagorol yr ydym yn darparu! Mae’n anrhydedd arbennig.”

 

Dywedodd Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae’n rhoi balchder enfawr i ni weld un o’n Nyrsys Arbenigol yn cael ei chydnabod am ei chyflawniadau rhagorol. Mae gan ein nyrsys ni yn arbenigo yn eu pynciau, ac mae Carol yn enghraifft wych o hwn. Mae hi'n ysbrydoliaeth nid yn unig i'w chydweithwyr a'i chleifion, ond i'w ffrindiau a'i theulu hefyd. Mae hi’n sicr yn haeddu cyrraedd y rownd derfynol a dymunwn bob lwc iddi!”

 

Bydd Carol yn mynychu seremoni wobrwyo'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd ar Ddydd Iau 29 Medi 2022, lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.

Llongyfarchiadau Carol, rydych yn sicr yn ysbrydoliaeth i ni a dymunwn bob lwc i chi!