Rydym yn falch iawn bod ein Is-gadeirydd, Emrys Elias, wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am hyd at y 18 mis nesaf, yn dilyn ymddeoliad yr Athro Marcus Longley ar ôl ei dymor 4 blynedd.
Bydd Emrys yn dechrau yn y swydd ar 1af o Hydref 2021.
Hoffem ddymuno pob hwyl i Emrys yn y rôl newydd hon a hoffem ddiolch iddo am ei waith a'i ymrwymiad gyda'n Bwrdd Iechyd.
Rydym yn trafod y trefniadau ar gyfer penodi ei olynydd gyda Llywodraeth Cymru.