Mae Wythnos Imiwneiddio'r Byd (24-30 Ebrill) yn ymgyrch fyd-eang a gynhelir gan Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n tynnu sylw at y ffordd y mae brechlynnau'n amddiffyn pobl o bob oed ac yn helpu i atal lledaeniad clefydau sy'n bygwth bywyd.
Mae brechiadau'n ein hamddiffyn yn ystod pob cam o fywyd — o feichiogrwydd a'r blynyddoedd cynnar, nes byddwn yn oedolion hŷn. Mae gwneud yn siwr eich bod yn cael pob brechlyn sy’n cael ei argymell i chi yn fodd o’ch amddiffyn chi, eich teulu a'ch cymuned ehangach.
Er mwyn ei gwneud hi'n haws deall beth sy'n cael ei argymell a phryd, mae ein llinell amser brechu yn dangos:
Mae dilyn yr amserlen frechu a argymhellir yn cynnig yr amddiffyniad gorau posibl yn erbyn afiechydon difrifol, gan helpu i atal cymhlethdodau, derbyniadau i'r ysbyty a phroblemau iechyd hirdymor.
Cafodd brechlyn y frech goch ei gyflwyno yn 1963.
Cyn brechu, roedd y frech goch yn aml yn cael ei ystyried yn salwch arferol yn ystod plentyndod ond roedd risg cudd a sylweddol o salwch difrifol a marwolaeth. Fe’i datblygwyd gan John Enders ac fe’i mireiniwyd yn nes ymlaen gan Maurice Hilleman er mwyn lleihau sgil-effeithiau. Mae brechlyn y frech goch wedi achub miliynau o fywydau ifanc ledled y byd. Fodd bynnag, mae achosion bellach yn dechrau codi eto yn y DU, gan danlinellu pwysigrwydd cael pob brechlyn sy’n cael ei gynnig i chi.
Mae'r frech wen wedi'i dileu diolch i frechu.
Hanes y frech wen yw un o’r llwyddiannau mwyaf ym maes iechyd y cyhoedd. Yn dilyn rhaglen frechu fyd-eang, datganodd Sefydliad Iechyd y Byd fod y clefyd wedi'i ddileu yn 1980. Roedd yr achos diwethaf hysbys yn Somalia ym 1977, ac mae hyn yn dangos y rôl bwerus y mae brechlynnau yn ei chwarae wrth amddiffyn poblogaethau.
Mae brechlynnau yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf diogel a mwyaf effeithiol o ddiogelu ein hiechyd. Mae sicrhau eich bod chi a'ch teulu yn cael eich brechu ar amser yn helpu i gadw pawb yn fwy diogel, gan gynnwys y rheiny sy’n wynebu’r risg fwyaf.
👉 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau brechu ar ein gwefan:
Imiwneiddio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan