Neidio i'r prif gynnwy

Pwysig - Gofyniad am Orchuddion Wyneb ym mhob Safle'r Bwrdd Iechyd

Dydd Gwener 11eg Medi 2020
Gofyniad am Orchuddion Wyneb ym mhob Safle'r Bwrdd Iechyd

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion COVID-19 cadarnhaol yn y gymuned, mae ymchwiliadau wedi nodi bod diffyg Ymbellhau Cymdeithasol ym mhob grŵp oedran, mewn ystod o wahanol leoliadau, wedi cyfrannu at ledaeniad y firws.

Mae'r cynnydd hwn mewn achosion cadarnhaol yng Nghaerffili a nawr yng Nghasnewydd yn dangos nad yw Coronafeirws wedi diflannu. Mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb pawb i helpu i atal lledaeniad y feirws hwn, ac o ganlyniad, o Ddydd Gwener 11eg Medi 2020, mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflwyno'r mesurau ychwanegol canlynol i leihau'r risg ac i ddiogelu ein staff, cleifion ac ein cymunedau:

  • Rhaid i bawb ym mhob ardal sy'n wynebu cleifion a'r cyhoedd yn y Bwrdd Iechyd wisgo gorchuddion wynebau. Bydd y rhain ar gael wrth fynedfa ein hysbytai, gan ddarparu glanweithydd dwylo cyn gwisgo'r gorchudd wyneb.
  • Wrth adael adeilad y Bwrdd Iechyd, defnyddiwch y ddiheintydd dwylo cyn tynnu'r gorchudd wyneb a'i roi yn ddiogel mewn bin.
  • Caiff cleifion eu hasesu ar risg yn unigol a byddant yn cael eu cynghori yn unol â hynny.
  • Disgwylir i gleifion sy'n mynychu apwyntiadau cleifion allanol ac eraill wisgo gorchudd wyneb. Ni fydd yn ofynnol i blant dan 11 oed, neu'r rheini ag eithriadau meddygol, wisgo gorchudd wyneb.

Mesurau Atal Heintiau Eraill sy'n allweddol wrth leihau'r risg o drosglwyddo yw:

  • Dadheintio dwylo (golchi dwylo/ diheintydd dwylo)
  • Glanhau ardaloedd a gyffyrddir yn aml yn rheolaidd
  • Pellter cymdeithasol o leiaf 2 fetr
  • Aros adref os oes gennych symptomau COVID-19
  • Arhoswch gartref am 14 diwrnod os oes gan aelod o'ch cartref symptomau neu broawf cadarnhaol o Covid-19, neu os yw aelod o'n tîmau Olrhain Cyswllt yn gofyn i chi wneud hynny.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gofyn i bawb gymryd rhan yn y mesurau uchod i amddiffyn ein cleifion, staff y Bwrdd Iechyd a'n cymunedau.