Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd o Dywydd Eithafol

Mae rhybudd tywydd coch wedi’i gyhoeddi ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd o 7yb yfory (dydd Gwener 18 Chwefror), sy’n golygu bod perygl posib i fywyd. Rydym yn cynghori pobl i beidio â theithio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol.

 Oherwydd y rhybudd tywydd hwn, bydd angen i ni aildrefnu rhai apwyntiadau a drefnwyd ar gyfer yfory. Rydym ar hyn o bryd yn y broses o gysylltu â’r cleifion hynny yr effeithiwyd arnynt. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas ag apwyntiadau yfory, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad.

 Ni fyddwn yn rhedeg ein Canolfannau Brechu Covid-19 yfory, i sicrhau ein bod yn cadw ein preswylwyr a staff yn ddiogel. Os oes gennych apwyntiad brechu yfory, gallwch gerdded i mewn i unrhyw un o'n canolfannau brechu'r prynhawn yma tan 7.30yp. Dyma fanylion ein canolfannau brechu: Ein Canolfannau Brechu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)

 

Os na allwch ddod i sesiwn galw heibio heddiw, arhoswch am neges bellach gyda manylion am eich apwyntiad newydd.

 

Ni fyddwn ychwaith yn rhedeg ein hunedau profi symudol Covid-19 yfory. Wrth ffonio i drefnu apwyntiad, byddwch yn cael manylion am safleoedd profi Covid-19 eraill sydd ar gael.

 

Byddwn yn gohirio ein Gwasanaeth Casglu Gwastraff Clinigol o Gartrefi Cleifion

ar ddydd Gwener 18 Chwefror 2022. Byddwn yn ceisio gwneud y casgliadau a drefnwyd ar ddydd Sadwrn 19 Chwefror 2022.

 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud eu bod yn disgwyl malurion yn hedfan, coed wedi'u dadwreiddio a tharfu i deithio. Rydym yn annog trigolion i gymryd gofal ychwanegol yfory a thros y penwythnos.

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

Rydym yn annog gofal, ac i bawb gadw llygad barcud ar ragolygon y tywydd a gwirio gwefan CNC am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.

Am ragor o fanylion ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Paratoi ar gyfer llifogydd (naturalresources.wales)

 

Diolchwn i chi am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth barhaus.