Mae siarad am arferion y coluddion yn brofiad anghyfforddus i nifer o bobl. Ond mae'n bosibl bod siarad yn agored am ei symptomau, a mynd yn ôl at ei meddyg teulu pan nad oedd rhywbeth yn teimlo'n iawn, wedi achub bywyd Helen.
“Rwy’n gwybod bod siarad am y coluddion a pŵ yn anodd iawn i rai pobl. Ond oherwydd fy nghefndir i fel nyrs, dydw i erioed wedi cael y broblem honno. Does dim byd nad yw nyrsys wedi'i glywed o'r blaen"
Mae teimlo'n nerfus yn normal - mae mynd at y meddyg er gwaethaf hynny yn hanfodol
Mae Helen yn onest ynglŷn ei hofnau. Ond mae hi'n pwysleisio'r rhyddhad sy'n dod o gael atebion.
“Pan gefais i'r diagnosis, roeddwn i'n teimlo rhyddhad. O leiaf roeddwn i'n gwybod. Fy nghwestiwn nesaf oedd 'Felly beth sy’n digwydd nesaf?'”
Er ei bod hi'n nerfus, teimlai ei bod hi'n cael ei chefnogi’n dda yn ystod ei diagnosis a thrwy gydol ei thriniaeth.
“Roedd y staff yn ffantastig. Roedd rhywun yno i afael yn fy llaw drwy’r amser. Dyma eu bara menyn nhw"
Gwrandewch ar eich greddf
Nid yw Helen yn un sy'n teimlo cywilydd. Ond mae hi'n gwybod nad yw hynny'n wir i bawb.
Mae ei neges yn syml:
“Efallai y byddwch chi’n teimlo’n lletchwith,” meddai Helen, “ond fe allai achub eich bywyd.”