Neidio i'r prif gynnwy

Ugain mlynedd o'n nyrsys Ffilipinaidd gwych

Mehefin 1af 2021

Ugain mlynedd yn ôl heddiw ar 1 Mehefin 2001, buom yn ddigon ffodus i groesawu'r garfan gyntaf erioed o Nyrsys Ffilipinaidd i'n Bwrdd Iechyd.

I goffáu'r achlysur, cymerodd nyrsys o'r garfan wreiddiol hon ran mewn offeren Diolchgarwch yn Eglwys Our Lady a St Michael yn y Fenni ddydd Sul diwethaf, ynghyd â Chyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ein Bwrdd Iechyd, Rhiannon Jones.

Llun cyntaf (isod) - Dosbarth 2001- Ein carfan gyntaf erioed o Nyrsys Ffilipinaidd.

Ail lun (isod) - Rhai o'r Nyrsys hynny nawr, yn dal i wasanaethu ein Bwrdd Iechyd gyda balchder, yn y llun gyda Rhiannon Jones a'r Tad Matthew.

Rydyn ni mor falch o'n Nyrsys Ffilipinaidd a ymunodd â ni ugain mlynedd yn ôl ac o'r rhai sy'n parhau i ymuno â ni. Ni allwn ddiolch digon i chi am y gwaith caled anhygoel rydych chi wedi'i wneud dros y blynyddoedd.