Neidio i'r prif gynnwy

Uned Profi Covid-19 Dros Dro Newydd Yn Agor ym Margoed

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor uned brofi dros dro ym Margoed ar Ddydd Mercher 28 Hydref.

Bydd yr uned symudol newydd hon yn darparu gwasanaeth profi 'galw heibio' prynhawn i drigolion Caerffili, trwy apwyntiad yn unig.

 

Os oes gennych symptomau Coronafeirws (Covid-19) - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl - neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm amlwg, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-6pm i archebu prawf.

 

Bydd y safle profi newydd wedi'i leoli y tu allan ym maes parcio Llyfrgell Bargoed (CF81 8QR).

 

Bydd yr uned profi symudol ym maes parcio Canolfan Hamdden Caerffili hefyd yn aros ar agor tan 2 Tachwedd.

 

Rhaid trefnu apwyntiad. Ffoniwch 0300 30 31 222.

 

Maes parcio Llyfrgell Bargoed - Ffordd Hanbury, Bargoed, CF81 8QR

28ain Hydref - 2il Tachwedd

Oriau Gweithredu: 2.00pm - 4.30pm

 

Maes parcio Canolfan Hamdden Caerffili, Clôs Virginia, Caerffili, CF83 3SW

Ar agor tan yr 2il o Dachwedd

Oriau agor: 9.00am-12.30pm

 

• Apwyntiad yn unig. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-6pm.

• Gwneir y prawf mewn 5 munud.

• Dim ond ar gyfer trigolion Caerffili. Dewch â ID a phrawf o gyfeiriad.

• Gwisgwch orchudd wyneb ar eich ffordd yn ôl ac ymlaen i'ch prawf

• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau neu leoedd eraill ar y ffordd i'ch prawf neu oddi yno

• Cofiwch, os oes gennych symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch cartref cyfan hunan-ynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniadau eich profion.

 

Ar gyfer pobl sy'n byw y tu allan i ardal Caerffili, mae cyfleusterau profi eraill ar gael yn Gwent. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8.00 am - 6.00 pm i archebu.

Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref.

Gwnewch gais ar-lein yn www.gov.wales neu ffoniwch 119.