Neidio i'r prif gynnwy

Uned y Fron Ysbyty Ystrad Fawr - Cau'r brif fynedfa - WEDI'I YMESTYN

Ymhellach i’n hysbysiad ar 27 Hydref yn eich hysbysu y bydd y brif fynedfa i’r maes parcio yn Ysbyty Ystrad Fawr ar gau am 5 diwrnod o Ddydd Llun 31 Hydref, mae’r cyfnod hwn bellach wedi ei ymestyn hyd at Ddydd Mercher 9 Tachwedd.

Bydd angen i gleifion a staff ddefnyddio mynedfa gefn yr ysbyty i gael mynediad i’r maes parcio, a fydd wedi’i arwyddo’n glir. Caniateir gollwng cleifion wrth y fynedfa lefel 1 ond ni chaniateir parcio gan mai dyma'r man codi a gollwng ambiwlansys hefyd.

Bydd gennym ni dîm diogelwch wrth bob mynedfa i helpu i arwain pobl os oes angen.

Mae'r diagram canlynol yn dangos manylion y cau. Lawrlwythwch fersiwn pdf o'r diagram.