Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod

Dydd Mawrth 17 Hydref 2023

I goffau wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, neithiwr ymunodd ein tîm NICU â Gwasanaethau Mamolaeth i oleuo Ysbyty Athrofaol y Grange yn binc a phorffor.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd fel cymuned a rhoi lle diogel a chefnogol i unrhyw un sy’n cael ei gyffwrdd gan feichiogrwydd a cholled babi rannu eu profiadau a theimlo nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

Mae hwn yn ddyddiad pwysig iawn i lawer o bobl ledled y byd. Mae’n rhoi cyfle i rieni mewn profedigaeth, eu teuluoedd a’u ffrindiau uno ag eraill yn fyd-eang i goffáu bywydau eu babi.