Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn eich gwahodd i oedi a myfyrio ar effaith Covid-19. Bydd ein caplaniaid yn cynnau canhwyllau, yn gosod coed coffa ar gyfer gadael negeseuon, ac yn darparu llyfrau coffa yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent, fel man i fyfyrio a rhoi teyrngedau.
Bydd y lleoedd hyn ar gael drwy gydol mis Mawrth gan fod eleni yn nodi 5 mlynedd ers i Covid-19 ddechrau.
Ymunwch â ni i anrhydeddu’r rhai a gollwyd, cefnogi’r goroeswyr a’r rhai sy’n galaru, a chofio cryfder a chefnogaeth ein cymunedau.
#Dayofreflection #DiwrnodiFyfyrio #Cofiogyda'nGilydd.