Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi i Bobl Ifanc ac Oedolion ag Anableddau Dysgu

Mae Tîm Ffisiotherapi Anabledd Dysgu Oedolion yn dîm cymunedol sy'n gweld pobl yng Nghaerffili, Casnewydd, Torfaen, Mynwy a Blaenau Gwent sydd ag anabledd dysgu.

Rydym yn trafod eich galluoedd a'ch anawsterau ac yn cydweithio i lunio cynllun er mwyn i chi allu cyflawni'r hyn sy'n bwysig i chi.

Rydym yn gweithio gyda'r holl bobl sy'n eich cefnogi. Rydym yn eich helpu gyda safle eich corff, symudiadau a sgiliau corfforol. Bydd hyn yn eich helpu gyda'ch gweithgareddau dyddiol.

 

Pan welwch aelod o'r tîm, byddwch naill ai'n gweld ffisiotherapydd pontio os ydych chi rhwng 16 a 25 oed, neu ffisiotherapydd sy'n gweld oedolion dros 25 oed. Efallai y byddwch hefyd yn gweld un o'n technegwyr ffisiotherapi.

Ewch i Cyngor ac Ymarferion i Bobl Ifanc ac Oedolion ag Anabledd Dysgu am ragor o wybodaeth ac offer i'ch helpu i reoli rhai o'r symptomau y gallech fod yn eu profi ac i'ch helpu i gadw'n heini ac yn egnïol.

Os oes gennych broblem gyda'ch esgyrn, cymalau a chyhyrau, ewch i wefan Gwent yn Symud yn Well.