Rydym yn dîm o ffisiotherapyddion arbenigol sy'n gweithio ar draws y Bwrdd Iechyd ac yn arbenigo mewn sawl agwedd ar ofal obstetreg, gynaecolegol ac wroleg. Rydym wedi casglu nifer o ddolenni a fideos defnyddiol yr ydym yn gobeithio y byddant o fudd i chi a rhywfaint o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn.
Mae'r wybodaeth wedi'i chynllunio i roi'r offer i chi i'ch helpu i reoli rhai o'r symptomau y gallech fod yn eu profi a theimlo'n hyderus i gadw'n heini ac yn egnïol - dilynwch y dolenni ar y chwith i'r gwasanaethau a gynigiwn neu cliciwch ar y symbol Ξ ar y dde uchaf os ydych chi'n edrych ar ddyfais symudol.
Os byddwch yn dewis cael eich atgyfeirio at wasanaethau ffisiotherapi, ein nod yw eich gweld yn eich ysbyty lleol agosaf.
Dyma ddolen i lyfryn gan ein sefydliad proffesiynol sy'n rhoi rhagor o fanylion am rôl ffisiotherapi iechyd y pelfis a rhai o'r cyflyrau rydyn ni'n eu trin.