Mae gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn brofiad ysgogol ac yn werth chweil, ac mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm.
Mae gennym dros 300 o aelodau staff yn y gwasanaeth ffisiotherapi, gan gynnwys ffisiotherapyddion cofrestredig, gweithwyr cymorth gofal iechyd a staff gweinyddol yn gweithio ar draws llawer o safleoedd ac rydym yn annog staff i rannu profiadau ac arbenigedd ar draws y gwasanaeth.
Mae BIPAB yn cwmpasu ardal ddaearyddol fawr gyda safleoedd ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen - gweler y map am safleoedd ysbytai. Rydym yn cynnig ystod eang a deniadol o wasanaethau a buddion i'n holl weithwyr, ac mae gennym gyfleusterau gwych, gwasanaethau iechyd arloesol a staff arobryn.