Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae pobl yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth?

Mae'r Gwasanaeth Asesu Cof yn derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu ac arbenigwyr gofal iechyd gofal eilaidd eraill.

Os yw'r atgyfeiriad o ffynhonnell heblaw meddyg teulu, bydd y Gwasanaeth Asesu Cof yn hysbysu'r meddyg teulu ac yn gofyn am hanes meddygol a rhestr o feddyginiaethau.

Os oes gennych chi, neu rhywun yr ydych chi'n eu hadnabod, bryderon am newidiadau i’w cof, cysylltwch â'r meddyg teulu i gael arweiniad. Bydd y meddyg teulu yn gallu cynnal archwiliadau iechyd rhagarweiniol a gallant gyfeirio at y Gwasanaeth Asesu Cof, os oes angen.

Unwaith y bydd y gwasanaeth wedi derbyn atgyfeiriad ac wedi penderfynu ei fod yn atgyfeiriad priodol, byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad, yn eich gwahodd i gael asesiad.