Byddwch yn cael cynnig Adolygiad Byr o'ch Anghenion gydag un o'n Hymarferwyr neu Therapyddion Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol . Oherwydd y galw mawr am gyswllt ar gyfer y gwasanaeth rydym ar hyn o bryd yn treialu dull brysbennu o’r enw BRYN – nod y peilot yw gwella mynediad amserol at gymorth a nodi llwybrau gofal.
Byddwch yn cyfarfod â’r ymarferydd un i un, dros y ffôn fwy na thebyg, neu alwad fideo os gofynnir am hynny, neu mewn ystafell gyfrinachol yn lleol. Bydd yr apwyntiad tua 30 munud o hyd a bydd yn golygu sgwrsio am eich anawsterau presennol a pha mor hir y maent wedi bod yn mynd ymlaen.
Bydd yr ymarferydd hefyd yn gofyn cwestiynau pellach i chi yn ymwneud â'ch anawsterau presennol a beth yw eich gobeithion a'ch anghenion presennol.
Bydd yr ymarferydd yn gallu cynnig cyngor, addysg a chefnogaeth i chi ynghylch eich anawsterau presennol. Gallant hefyd eich cyfeirio at unrhyw wasanaethau pellach a allai fod o fudd i'ch adferiad.
Efallai y byddwch yn cytuno i gyfarfod eto i barhau â'ch adolygiad neu i gael asesiad pellach.