Mae cleifion yn cael eu gweld mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd; mae'r rhan fwyaf yn cael eu gweld yn eu meddygfa Meddyg Teulu (MT) naill ai gan y Meddyg Teulu neu nyrs y Practis yn aml dyma lle gwneir y diagnosis ac apwyntiad i drafod beth mae hyn yn ei olygu, a'r triniaethau sydd eu hangen.
Mae yna hefyd dîm o Nyrsys Diabetes Arbenigol a Meddyg Teulu Arbenigol a all hefyd weld cleifion â diabetes sy'n ei chael hi'n anodd cael rheolaeth ar eu diabetes ac maen nhw'n gweithio gyda'r meddygon teulu a nyrsys practis sy'n eich cyfeirio at y tîm er mwyn iddynt helpu i osgoi gorfod anfon cleifion i'r ysbyty neu gael eu derbyn i’r ysbyty.
Mae gwasanaeth diabetes ysbytai yn darparu gwasanaethau cleifion mewnol ac allanol helaeth gan ddefnyddio dull amlddisgyblaethol sy'n cwmpasu pob agwedd ar ofal diabetes i oedolion.
Gallai cleifion sy'n cael eu hanfon i'r ysbyty gael eu gweld ar ward neu mewn clinig cleifion allanol neu'r ganolfan diabetes. Mae cleifion sy'n wael ac angen triniaeth fel claf mewnol yn cael eu derbyn i ward ysbyty, ar gyfer y rhai sy'n wael iawn ac yn dod i'r ysbyty mewn ambiwlans gallant fynd i Uned Damweiniau ac Achosion Brys neu dderbyniadau meddygol ac weithiau i ward gofal dwys dibyniaeth fawr.
Nod y gwasanaethau diabetes yw helpu pobl sy'n cael diagnosis o ddiabetes i wella eu hiechyd trwy driniaethau, addysg, hyfforddiant a chefnogi sgiliau hunanreoli. Ein nod yw cynnig gofal o ansawdd uchel i bob oedolyn â diabetes a’u gofalwyr/teuluoedd, er mwyn galluogi pob person â diabetes i fyw bywyd mor iach a bodlon â phosibl.