Siop un stop sy'n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i bobl â Diabetes
Diabetes UK
Diabetes UK yw prif elusen diabetes y DU.
“Rydyn ni yma i atal diabetes Math 2, ymgyrchu dros a chefnogi pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddiabetes, ac ariannu ymchwil a fydd un diwrnod yn ein harwain at iachâd.” Gweler hefyd Diabetes UK Cymru
Diabetes Genes
Sefydliad sy'n darparu gwybodaeth i gleifion a gweithwyr proffesiynol ar ymchwil a gofal clinigol mewn mathau genetig o ddiabetes. Caiff ei redeg gan dimau yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerwysg ac Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Brenhinol Dyfnaint a Chaerwysg.
Taflenni Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Ddeieteg Prydain
Mae ein Taflenni Ffeithiau Bwyd wedi'u hysgrifennu gan ddietegwyr i'ch helpu chi i ddysgu'r ffyrdd gorau o fwyta ac yfed i gadw'ch corff yn heini ac iach.
Wedi'u hysgrifennu gan ddietegwyr, nod y taflenni ffeithiau bwyd hyn yw helpu unigolion â diabetes i ddysgu'r ffyrdd gorau o fwyta ac yfed a chadw'n heini ac iach.
Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion Gwasanaeth pwrpasol sy’n cynnig cymorth a chyngor i bobl sydd eisiau colli pwysau mewn ffordd iach, drwy wella eich iechyd a’ch lles, a’ch cefnogi i gadw'r pwysau yr ydych yn ei golli i ffwrdd. Trwy golli pwysau gallwch wella eich iechyd a'ch lles emosiynol, yn ogystal â lleihau'r risg o gymhlethdodau iechyd.
NHS Choices
Tudalen we'r GIG sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor ar ddiabetes.