Neidio i'r prif gynnwy

Mathau o Diabetes

Diabetes Math 1

Mae diabetes math 1 yn achosi i lefel y glwcos (siwgr) yn eich gwaed fynd yn rhy uchel. Mae'n digwydd pan na all eich corff gynhyrchu digon o hormon o'r enw inswlin, sy'n rheoli glwcos yn y gwaed. Bydd angen pigiadau inswlin dyddiol arnoch i gadw lefelau glwcos eich gwaed dan reolaeth.

Gall rheoli diabetes math 1 gymryd amser i ddod i arfer ag ef, a'n nod yw eich helpu i wneud yr holl bethau yr ydych yn eu mwynhau.

Mae achos diabetes T1 yn parhau i fod yn anhysbys, fodd bynnag, mae yna gysylltiadau os oes gan aelodau'r teulu'r cyflwr neu firws benodol sy'n ymddangos ei bod yn dinistrio gallu'r pancreas i gynhyrchu inswlin.


Rhybudd

Gall peidio â chael diagnosis neu beidio â thrin Diabetes arwain at gymhlethdodau difrifol neu mewn rhai amgylchiadau prin hyd yn oed farwolaeth.

 

Cetoasidosis Diabetes (DKA)

Mae cetoasidosis diabetes (DKA) yn gymhlethdod difrifol iawn sy’n deillio o beidio â chael diagnosis o ddiabetes math 1 neu fethu â’i reoli’n gywir. Bydd hyn yn digwydd lle mae diffyg inswlin llwyr yn y corff a bydd yn arwain at lefelau ceton uchel iawn yn y gwaed gan achosi asidosis. Yn fwyaf aml mae lefelau Glwcos Gwaed yn codi'n uchel (dros 11 mmols) ac mae hyn yn rhybudd nad oes gan y corff ddigon o inswlin i reoli'r glwcos yn y gwaed.

Mae DKA yn argyfwng meddygol peryglus ac mae angen derbyn claf i’r ysbyty ar unwaith. Peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth ffoniwch 999.

Diabetes Math 2

Mae diabetes math 2 hefyd yn cael ei achosi gan broblemau sy’n ymwneud â diffyg effeithiolrwydd hormon a elwir yn inswlin. Mae'n aml yn gysylltiedig â bod dros bwysau neu'n llonydd (ond nid dyma’r unig achosion) neu â hanes teuluol o ddiabetes math 2. Mae diabetes math 2 yn achosi i lefelau glwcos yn y gwaed fynd yn rhy uchel.

Mae'n digwydd naill ai pan na fydd eich corff yn gweithio'n dda gyda'r inswlin rydych chi'n ei wneud neu os nad yw'ch pancreas yn gwneud digon o inswlin i ddiwallu'ch anghenion.

Mae'r canllaw canlynol ar wefan Diabetes UK yma i helpu.

Gall achosi symptomau fel syched gormodol, yr angen i basio llawer o wrin a blinder ac weithiau gall effeithio ar eich pwysau (colli neu ennill). Gall hefyd gynyddu eich risg o gael problemau difrifol gyda'ch calon, eich llygaid, eich arennau, a'r system nerfol.

Llwybrau i Weithwyr Diabetes Proffesiynol

 

Mae DIABETES yn gyflwr gydol oes sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Os cewch ddiagnosis, efallai y cewch eich annog i wneud rhai newidiadau i'ch gweithgaredd a'ch diet. Mewn rhai achosion, gall diet isel iawn o ran calorïau helpu i ddatrys y Diabetes a bydd ein dietegwyr yn gallu eich cynghori os yw hyn yn addas i chi. Rydym yn ansicr ynghylch pa mor hir y bydd y datrysiad hwn yn para ond mae ymchwil yn parhau i effeithiau dietau isel mewn calorïau ar ddatrys diabetes. Efallai y byddwch hefyd yn cael presgripsiwn am feddyginiaethau newydd ac yn cael eich galw i gael archwiliadau gyda'ch practis Meddyg Teulu neu dîm yr ysbyty.

Mathau eraill o ddiabetes

  • Diabetes yn ystod beichiogrwydd
  • Monogenig (Genetig) neu Ddatblygiad Aeddfedrwydd Diabetes yn Ifanc (MODY)
  • Anhwylderau endocrin a all effeithio ar reoleiddio glwcos yn y gwaed, er enghraifft chwarennau thyroid, pitwidol, ofari, neu adrenal.
  • Annigonolrwydd pancreatig
  • Diabetes sy'n gysylltiedig â Ffibrosis Systig

 

I gael rhagor o wybodaeth am fathau eraill o ddiabetes, ewch i'r dolenni hyn: