CONNECT yw’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau Arbenigol Haen 3 cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (PPI) yng Nghymru, sy’n cwmpasu Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gyd. Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda PPI a'u teuluoedd i helpu i reoli eu pwysau a gwella eu hiechyd corfforol ac emosiynol. Mae'r tîm yn cynnwys pediatregydd ymgynghorol, dietegydd arbenigol, nyrs arbenigol, seicolegydd clinigol ac ymarferydd cynorthwyol therapi.
Mae CONNECT yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r PPI a'u teuluoedd a hefyd yn cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill megis meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol ac athrawon i ddarparu gwasanaeth unigol sy'n diwallu anghenion gofal y PPI.
Mae Connect ar gael i blant a phobl ifanc 0-18 oed sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
Oed <2 mlwydd oed
2-18 oed sy’n bodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol
Os nad yw'r PPI yn cwrdd â'n meini prawf yna rydym yn dal ar gael i gynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant. Cysylltwch â ni ar 0300 3034906 neu Connect.abb@wales.nhs.uk .
Sylwch na allwn reoli risg seicolegol yn ein gwasanaeth. Os ydych yn gweithio gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant ar hyn o bryd neu'n aros i'w gweld, cysylltwch â ni yn gyntaf i drafod cyn llenwi ein ffurflen hunanatgyfeirio neu efallai y caiff ei gwrthod.
Gellir cyfeirio pobl ifanc 18 oed a throsodd at y Gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion .
Rydym yn derbyn ffurflenni 'cais am gymorth' gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. Gwnewch yn siŵr bod gennych fesuriadau cyfredol ar gyfer eu taldra a’u pwysau ar gyfer y ceisiadau am gymorth hyn os gwelwch yn dda. Os nad yw’r rhain ar gael ni fydd modd I ni brosesu’r cais. Byddem yn gofyn i chi wylio'r fideo Disgwyliadau isod er mwyn i chi ddeall yr hyn y gall ein gwasanaeth ei gynnig a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi a'ch teulu. Os na allwch lenwi'r ffurflen hon ar-lein neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni ar 0300 3034906 .
Cysylltu Adnoddau Defnyddiol (Dolenni/Gwefannau) |