Neidio i'r prif gynnwy

Coleg a Phrifysgol - Ar gyfer Pobl Ifanc

 

  • Meddyliwch am ble rydych am fynd i’r coleg neu’r brifysgol. Ydych chi eisiau aros yn agos at deulu a ffrindiau, neu a hoffech fentro ymhellach? Edrychwch ar wefannau colegau/prifysgolion i gael rhagor o wybodaeth am y lleoedd rydych chi’n meddwl mynd iddyn nhw. Gall fod yn ddefnyddiol gwneud ychydig o waith ymchwil am y dref/ddinas hefyd. Mae cyrsiau ar-lein trwy leoedd fel Y Brifysgol Agored hefyd yn opsiwn, os ydych chi eisiau neu angen mwy o hyblygrwydd.
  • Pan fyddwch yn gwneud cais i’r coleg neu’r brifysgol, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod iddynt beth yw eich anghenion, fel y gallant eich cefnogi orau. Gall hyn fod yn anodd a gall deimlo’n llethol, ond mae’n bwysig gwneud fel y gallant ddarparu’r cymorth a’r addasiadau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich addysg.
  • Gall dewis rhywle i fyw ar gyfer y coleg neu’r brifysgol beri straen. Mae rhai pobl yn dewis aros gartref i fyw, tra gallai eraill symud allan i lety myfyrwyr neu dŷ a rennir. Meddyliwch am ba anghenion hygyrchedd sydd gennych, a pha fath o lety y bydd ei angen arnoch.
  • Mae colegau a phrifysgolion yn aml wedi'u gwasgaru ar draws ardaloedd mwy eang nag ysgolion, felly meddyliwch am ba mor bell y bydd angen i chi deithio - nid yn unig i gyrraedd y coleg neu'r brifysgol, ond hefyd i gyrraedd eich gwersi/darlithoedd tra'ch bod chi yno. Gall ceisio cynllunio’r teithiau hyn ymlaen llaw helpu i reoli eich lefelau egni a lleihau pryder hefyd.
  • Mae bwyta ac yfed yn dda yn bwysig i reoli’ch lefelau egni, ac i gynnal eich ymennydd a'ch corff. Gall mynd i’r coleg neu’r brifysgol ei gwneud hi’n anodd cydbwyso hyn, ond mae defnyddio triciau fel rhewi unrhyw fwyd sydd dros ben, cadw tuniau yn y cwpwrdd, rhannu’r coginio gyda ffrindiau/teulu, neu ddewis llety prifysgol sy’n paratoi ac yn darparu prydau ar eich cyfer i gyd yn opsiynau i'w hystyried.
  • Gall meddwl pŵl fod yn anodd ei reoli, yn enwedig yn y coleg neu'r brifysgol. Ceisiwch ddefnyddio pethau fel nodiadau papur, nodyn atgoffa yng nghalendr eich ffôn, recordio darlithoedd neu wersi i'w hadolygu'n ddiweddarach, neu gopïau wedi'u hargraffu o gyflwyniadau, er mwyn helpu i reoli meddwl pŵl.
  • Gall byw gyda symptomau corfforol parhaus effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch lles. Edrychwch ar ein tudalennau ar Ymdopi gyda Meddyliau a Theimladau Anodd a Cadw Eich Hun yn Ddiogel am ragor o wybodaeth a dolenni i adnoddau. Gallwch hefyd geisio cymorth gan Dimau Llesiant/Cymorth eich coleg neu brifysgol.

Mae llawer mwy o wybodaeth am y pynciau uchod yn y ddogfen Syniadau Da ar gyfer Astudio i’r rhai â Chyflwr Hirdymor sy'n Cyfyngu ar Egni, ynghyd â gwybodaeth ac awgrymiadau ar reoli amgylcheddau prysur, cyfarfod â phobl newydd, gweithio wrth ddesg neu gyfrifiadur, a llawer mwy.