Mae cysgu a gorffwys yn bwysig iawn i helpu eich corff a’ch ymennydd – mae cysgu yn helpu eich ymennydd i gofio, yn helpu eich corff i wella a thyfu, mae’n helpu â'ch hwyliau, a hyd yn oed eich system imiwnedd. Yn ystod y nos, bydd eich corff yn rhyddhau cemegau arbennig o'r enw hormonau i'ch helpu â'r holl bethau hyn. Pan fyddwch yn sâl, bydd angen i chi gysgu mwy i helpu eich corff i adfer. Hyd yn oed pan fyddwch yn teimlo'n well, yn aml, bydd angen i chi gysgu ac ymlacio ychydig yn fwy hefyd.
Weithiau, os byddwch yn sâl neu â symptomau corfforol, gall eich trefn gysgu droi “â'i hwyneb i waered” - gallwch deimlo’n flinedig iawn drwy’r amser ac efallai y byddwch yn cysgu yn ystod y dydd, ac yn methu â chysgu yn ystod y nos. Gall y profiad hwn fod yn rhwystredig pan fyddwch yn cychwyn teimlo'n well ond byddwch yn dal yn cael trafferth cysgu yn ystod y nos. Mae'n bwysig gwybod fod hynny'n rhywbeth arferol a all ddigwydd i unrhyw un.
Os bydd gennych symptomau corfforol sy'n para'n hir (pa un ai a gychwynnodd y rhain
wedi salwch ai peidio), weithiau, gall y symptomau hyn effeithio ar eich gallu i gysgu, a gall eich symptomau olygu y bydd yn anodd i chi fynd i gysgu. Gall hyn fod yn eithaf anodd! Dyma rywfaint o gynghorion ac awgrymiadau y gallwch roi cynnig arnynt i helpu i roi trefn ar eich cysgu unwaith eto.
Ceir llawer iawn rhagor o gynghorion ynghylch sut i gysgu'n dda trwy'r nos ar y gwefannau hyn: