Gall poen fod yn ddefnyddiol – a ydych erioed wedi cael codwm a chrafu eich pen-glin? A ydych erioed wedi taro eich pen? A ydych erioed wedi bwrw bys eich troed? Mae’n debyg ei fod yn boenus! Nid yw poen yn braf, ond gall fod yn ddefnyddiol. Mae pob poen yn cael ei greu yn ein hymennydd: nid yw hyn yn golygu ein bod yn “dweud celwydd” neu’n “ei ddychmygu” – yn union fel yr arwyddion o lwgu y mae ein hymennydd yn eu hanfon, ac rydym yn teimlo'n llwglyd yn ein stumogau, gall ein hymennydd anfon arwyddion poen at unrhyw le yn ein corff.
Gall poen ymddwyn fel system larwm – dyma ffordd ein hymennydd o’n rhybuddio y gallai rhywbeth niweidio ein corff. Mae’n rhoi gwybod i ni efallai nad yw'r hyn yr ydym yn ei wneud yn ddiogel iawn. Rydym yn talu sylw i’r larwm hwn, yn rhoi'r gorau i'r hyn rydym yn ei wneud, ac yn sicrhau ein bod yn ddiogel. Yna, rydym yn ceisio cofio i beidio â’i wneud eto. Mae’r larwm poen fel ci gwarchod sydd wedi cael ei hyfforddi’n dda sy’n ceisio gofalu amdanom – mae’r ci gwarchod yn cyfarth os oes lladron yn ceisio torri i mewn i’r tŷ, gan roi gwybod i ni fod angen i ni osgoi’r perygl a chadw’n ddiogel. Mae hwn yn boen defnyddiol, y gellir ei alw’n boen acíwt. Mae poen acíwt yn ein hatgoffa i fod yn ofalus yn y dyfodol, ac mae’n ein helpu i ddysgu am yr hyn sy’n ddiogel a’r hyn nad yw’n ddiogel a sut i ofalu am ein corff.
Gall hefyd ein hatgoffa bod ein corff angen amser i wella a chryfhau. Pan fydd poen acíwt yn diflannu, mae hyn fel arfer yn dweud wrthym fod y niwed wedi cael ei wella a'i bod yn ddiogel symud eto. Nid yw ein hymennydd yn anfon yr arwyddion poen mwyach, oherwydd bod y niwed wedi cael ei wella.
Os ydych wedi bod yn sâl, efallai eich bod wedi treulio cyfnod hir yn y gwely, yn gorwedd neu ddim yn symud rhyw lawer. Gall hyn olygu nad yw eich cyhyrau mor gryf ag y buont, ac efallai y byddant yn brifo am ychydig pan fyddwch yn dechrau symud eto. Gall dechrau symud eto fod yn ddefnyddiol, ond mae’n hynod bwysig bod hyn yn cael ei deilwra i’ch anghenion, felly siaradwch â’ch rhiant, gofalydd neu oedolyn y gallwch ymddiried ynddo, a gallant gael rhywfaint o gymorth a chyngor gan weithwyr proffesiynol am yr hyn a fyddai’n ddefnyddiol i chi.
Ond, nid yw pob poen yn gi gwarchod defnyddiol sydd wedi'i hyfforddi'n dda ...
Dychmygwch gi gwarchod sydd wedi’i hyfforddi’n wael – mae’r ci hwn yn cyfarth ar bopeth! Dychmygwch fod y ci yn cyfarth ar y postmon, ar wiwerod yn y goeden y tu allan, ar y dail yn chwythu yn y gwynt, ar bobl yn cerdded heibio eich ffenestr ac ar y gath drws nesaf. Mae’r ci gwarchod yn cyfarth pan nad oes perygl gwirioneddol hyd yn oed, ond mae'r arwydd larwm yr un peth. Yn union fel ci gwarchod sydd wedi’i hyfforddi’n wael, gall ein larwm poen ddod yn ddiffygiol weithiau, a gall ein hymennydd anfon arwyddion poen drwy'r amser, hyd yn oed pan nad oes perygl. Yn union fel y ci gwarchod sydd wedi’i hyfforddi’n wael, mae’r larwm poen yn parhau i gyfarth: “Perygl! Nid yw’n ddiogel! Stopiwch!”. Mae hyn yn gwneud i ni boeni am frifo ein hunain pan yr ydym yn ddiogel hyd yn oed, a phan nad oes unrhyw berygl. Mae’n hynod annefnyddiol ac mae’n hynod annifyr! Mae’r math annefnyddiol hwn o boen yn cael ei alw’n boen cronig.
Dim ond pan fydd rhywun wedi ei gael am dros 3 mis neu’n hirach y gelwir yn boen cronig. Weithiau gall anaf, salwch neu ddamwain achosi’r system larwm poen hon i ddod yn ddiffygiol, ac mae’n golygu bod ein hymennydd yn anfon llawer o arwyddion poen pan nad oes perygl hyd yn oed, ond weithiau nid ydym yn gwybod pam mae hyn yn digwydd. Os oes gennych boen cronig, nid chi sydd ar fai, ac nid ydych wedi ei ddychmygu. Mae profiad pawb o boen cronig yn wahanol. Er y gall poen cronig bara am amser maith, weithiau nid yw byth yn diflannu, mae ffyrdd o “droi’r sain i lawr” ar y larwm poen, fel ei fod yn haws byw ag ef.
Mae hefyd yn hynod bwysig eich bod yn siarad ag oedolyn am eich poen. Os oes angen mwy o gymorth arnoch gyda’ch poen, gallant eich helpu i siarad â gweithwyr proffesiynol a all eich cefnogi.
Mae mwy o adnoddau a gwybodaeth ddefnyddiol ar y gwefannau hyn:
Gallwch wylio’r fideo hwn gyda’ch rhiant, eich gofalydd neu oedolyn y gallwch ymddiried ynddo: