Mae'r gwasanaeth Adfer yn dilyn Salwch yn wasanaeth Arbenigol o fewn yr Adran Gwasanaeth Seicoleg Pediatrig. Rydym yn gweithio fel tîm amlddisgyblaethol (MDT) i helpu pobl ifanc i reoli eu symptomau. Mae'r tîm yn cynnwys Seicolegydd Clinigol, Pediatregydd Ymgynghorol, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol a Seicolegydd Cynorthwyol. Nod y gwasanaeth yw helpu pobl ifanc i reoli eu symptomau’n well, i drafod sut mae eu cyflwr iechyd penodol wedi effeithio ar eu bywyd yn yr ysgol a’u bywyd cymdeithasol a’u helpu i deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth.
Rydym yn gweld plant a phobl ifanc sy'n cael trafferth gyda covid hir, blinder neu gyflyrau iechyd cronig eraill. Rydym yn gweithio gyda’r plentyn yn ei gyfanrwydd ac rydym yn datblygu cynllun ymyrraeth pwrpasol i gefnogi’r plentyn a/neu’r person ifanc er mwyn eu helpu i ymdopi â’u symptomau anodd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau eraill i ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r person ifanc er mwyn iddynt allu gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt.
Apwyntiad mewn clinig tîm amlddisgyblaethol lle mae’r person ifanc a’u teulu yn cyfarfod â’r tîm ac yn trafod yr heriau y mae’r person ifanc yn eu hwynebu a sut mae hyn yn effeithio ar eu bywyd. Mae’r person ifanc a’u teulu yn mynd â chynllun ymyrraeth pwrpasol a ddatblygwyd ar y cyd â’r teulu a’r MDT, adref gyda hwy.
Gall ymyriadau gynnwys:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm ar ABB.Recoveryfromillness@wales.nhs.uk.
Gall plant a phobl ifanc gael eu hatgyfeirio i gael eu hasesu gan bediatregwyr, meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Gwella ar ôl salwch Cyngor Gwych
Canllaw gwybodaeth o awgrymiadau da i'ch helpu i wella ar ôl salwch