Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Pediatrig

 

Mae'r gwasanaeth Seicoleg Pediatrig yn cefnogi plant a phobl ifanc â phroblemau iechyd corfforol a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Seicolegwyr Clinigol sy'n gweithio ochr yn ochr â llawer o weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Ein nod yw helpu plant a'u teuluoedd i ymdopi ag agweddau emosiynol a seicolegol iechyd a salwch. Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at 18 oed.

Gall y plant a welwn weithiau fod yn cael anawsterau gyda’u meddyliau, eu teimladau, eu hymddygiad a’u gallu i ymdopi, a bydd yr anawsterau hyn yn aml o ganlyniad i’w cyflwr meddygol, neu’n effeithio ar eu gallu i reoli eu cyflwr meddygol.

Rydym yn gweithio'n agos gyda thîm meddygol plant. Os teimlwch y byddai ein gwasanaeth o fudd, gallwch drafod hyn gyda Phediatregydd, Nyrs Glinigol Arbenigol neu dîm meddygol amlddisgyblaethol ehangach eich plentyn, a all eich cyfeirio os ydych yn cytuno.

Cysylltwch

Ffôn: 01633 436996 (Llun-Gwener, 9am-5pm)

Ble ydyn ni?
Gwasanaeth Seicoleg Pediatrig
Adran Seicoleg Glinigol
Ysbyty St Woolos
Stow Hill
Casnewydd
NP20 4SZ
Dogfennau