Neidio i'r prif gynnwy

Stori John

Roedd John yn teimlo'n fwyfwy sâl ac mewn poen felly mynychodd yr adran damweiniau ac achosion brys lle cafodd ddiagnosis o ganser.

Ers yr amser hwn, mae John wedi bod angen llawdriniaeth a mwy o ofal a chymorth gan ei deulu.

Roedd John yn rheolwr cwmni ac wedi arfer bod â rheolaeth a gofal am ei fywyd. Roedd yn ei chael yn anodd dibynnu ar ei deulu a'i ffrindiau am gymorth a daeth yn fwyfwy encilgar.

Effeithiwyd ar y berthynas â'i wraig ac ychydig o agosatrwydd oedd ar ôl. Cynigiwyd sesiynau 1:1 i John gyda chynghorydd.

“Roedd cael rhywun i siarad â nhw yn amhrisiadwy. Roeddwn i'n ofni siarad gyda fy ngwraig a ffrindiau oherwydd roeddwn i'n teimlo fel baich. Mae canser yn gwneud i chi deimlo felly, yn faich i bawb.

Roedd mynychu apwyntiadau gyda chynghorydd yn fy ngalluogi i siarad yn rhydd am bopeth roeddwn i'n ei feddwl a'i deimlo heb deimlo'n euog. Siaradom hefyd am yr effaith a gafodd fy niagnosis ar y berthynas agos â fy ngwraig. Roeddwn yn gallu ailgysylltu â hi sydd wedi gwella cymaint o bethau”.