Neidio i'r prif gynnwy

Stori Patricia

Gweithiodd Patricia mewn swydd gyflym a heriol. Cafodd ei rhuthro i'r ysbyty ar ôl cwympo yn y gwaith lle cafodd ddiagnosis o strôc.

Derbyniodd Patricia therapi galwedigaethol a ffisiotherapi yn yr ysbyty a dechreuodd wella'n gorfforol ond roedd yn dal yn rhwystredig gyda'i lleferydd a theimlai ei bod wedi'i llethu gan ei theimladau.

Cyfeiriwyd Patricia at y seicolegydd am gefnogaeth 1:1 a mynychodd y coleg adferiad.

“Doeddwn i ddim yn gallu siarad gyda fy ffrindiau a fy nheulu am sut roeddwn i'n teimlo, dwi dal ddim yn hoffi rhoi baich arnyn nhw. Rwy'n cael fy hun yn gwisgo mwgwd i'w hamddiffyn .....a fi ar adegau... Roedd y strôc yn gymaint o sioc ac rwy'n dal i gael trafferth ei derbyn ond mae siarad â'r seicolegydd yn help mawr ac mae dysgu sgiliau newydd i mae rheoli rhai o'r heriau hefyd wedi bod yn ddefnyddiol...yn awr mae pobl yn dweud – “rydych chi bron yno, rydych bron wedi gwella”, ond nid ydynt yn deall mai'r 5% olaf o adferiad yw'r anoddaf - mae fy seicolegydd yn ei gael serch hynny....diolch"