Neidio i'r prif gynnwy

Stori Sarah

Cafodd Sarah ddiagnosis o ganser y pen a'r gwddf.

Roedd angen llawdriniaeth arni i dynnu'r tiwmor a'i thonsiliau. Yn dilyn hyn, cafodd sesiynau radiotherapi.

Disgrifiodd Sarah ei thriniaeth feddygol fel un ardderchog ond sylwodd ei bod yn ei chael hi'n anodd byw bywyd ystyrlon yn dilyn triniaeth.

Mynychodd Sarah ein Grŵp Byw gydag Ansicrwydd.

“Yn dilyn fy nhriniaeth canser, roeddwn i’n teimlo ar goll. Roeddwn i wedi mynd o gael apwyntiadau meddygol lluosog bob wythnos i deimlo'n unig yn sydyn. Dechreuais gael llawer o bryderon am y dyfodol a fy nghanser yn dychwelyd.

Fe wnaeth y Grŵp Byw gydag Ansicrwydd fy helpu i ddeall bod fy ymennydd yn ceisio fy helpu ond ei fod yn fy rhoi mewn dryswch. Dysgais fod eich meddwl yn eich bwlio i ryw gyfeiriad arbennig, ond fe allwch chi benderfynu cymryd cyfeiriad gwahanol os ydych chi eisiau."