Neidio i'r prif gynnwy

Mynychu apwyntiad

Pan fyddwch yn cael eich cyfeirio at ein gwasanaeth, byddwn yn eich gwahodd i apwyntiad gydag un o'n nyrsys arbenigol. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, bydd hyn naill ai mewn clinig lleol neu efallai y byddwn yn dod i'ch cartref.

Yn ystod eich apwyntiad, byddwn yn trafod eich hanes meddygol, y problemau rydych wedi bod yn eu cael ac unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd. Gallwn hefyd:

  • profi sampl o'ch wrin
  • gwneud sgan uwchsain
  • gwneud archwiliad corfforol o'r fagina neu rhefr


Unwaith y byddwn wedi eich asesu, byddwn yn trafod eich opsiynau ac yn creu cynllun triniaeth wedi'i deilwra i'ch anghenion. Gall eich triniaeth gynnwys pethau fel:

  • ymarferion llawr y pelfis
  • meddyginiaeth
  • newidiadau i'ch ffordd o fyw
  • hyfforddiant y bledren neu'r coluddyn
  • offer arbenigol


Yna byddwn yn cytuno ar gynllun dilynol fel y gallwn weld sut mae pethau’n mynd. Efallai y byddwn hefyd yn eich cyfeirio at wasanaethau eraill fel:

  • Therapi Galwedigaethol
  • Ffisiotherapi
  • Wroleg


Byddwch yn cael eich rhyddhau o wasanaeth y Bledren a'r Coluddyn unwaith y bydd eich triniaeth wedi'i chwblhau neu pan na fydd modd gwneud unrhyw gynnydd pellach.

Os byddwch yn methu apwyntiad heb gysylltu â ni ymlaen llaw, byddwch yn cael eich rhyddhau'n awtomatig o'r gwasanaeth.