Neidio i'r prif gynnwy

Stori Rachel

Cafodd Rachel ddiagnosis o ganser serfigol yn 2019. Roedd hi'n 44 oed ar y pryd ac roedd ganddi ddau o blant ifanc, 4 ac 8 oed. Roedd Rachel wedi dechrau cael poen yn yr abdomen a gwaedu afreolaidd rhwng ei mislif, ond diystyrodd y symptomau gan gredu mai arwyddion cynnar y menopos oeddynt. Gan ei bod yn fam brysur, roedd hi'n cario mlaen gyda bywyd fel arfer. 

“Ym mis Chwefror 2019, es i i’m prawf ceg y groth arferol. Dangosodd y canlyniadau newidiadau i’r celloedd, a chefais fy atgyfeirio at glinig colposgopi. A dweud y gwir, doeddwn i ddim wedi meddwl llawer am y peth yn y lle cyntaf ac fe es i'r apwyntiad ar fy mhen fy hun." Meddai Rachel.

"Eisteddais i lawr gyda'r meddyg, ac eglurodd bod fy nghanlyniadau wedi dangos newidiadau ‘difrifol’ i’r celloedd. Ar y pwynt hwnnw, fe gychwynnais feichio llefain . Fe wnaethon nhw gymryd biopsi, ac arhosais bythefnos am y canlyniadau. 

"Pan es i’n ôl, edrychodd y meddyg arnaf a dweud yn blwmp ac yn blaen, 'Does gen i ddim newyddion da mae arna' i ofn, canser yw e.' Es i’n ddiffrwyth. Doeddwn i ddim yn gallu deall sut roedd hyn wedi digwydd, gan fy mod i wedi cael canlyniadau profion ceg y goth rheolaidd clir bob amser. 

"Dw i'n cofio'r nyrs yn dweud ei bod modd ei wella, ond y cyfan y gallwn i feddwl oedd, 'O Dduw, mae hyn yn digwydd, mae hyn yn digwydd go iawn,' dro ar ôl tro. 

"Cefais ddiagnosis o ganser ceg y groth cam 1b. Ar ôl sgan MRI, dywedwyd wrthyf y byddai angen hysterectomi radical a thynnu nodau lymff arnaf. Rwy'n cofio deffro ar ôl y llawdriniaeth, a gadawodd yr anesthetydd i mi siarad gyda fy ngŵr ar y ffôn am ychydig. Yn ôl y sôn, dywedais wrtho fy mod i 'allan gyda'r plant.' 

"Dair wythnos yn ddiweddarach, es i am fy apwyntiad cleifion allanol i gael fy nghanlyniadau. Roeddwn i mor nerfus, ond cyn i mi hyd yn oed eistedd i lawr, gwenodd y llawfeddyg a dweud, 'Newyddion da, gyda llaw.' Dangosodd yr adroddiad histoleg i mi, a oedd yn cadarnhau nad oedd angen triniaeth bellach. Neidiais i fyny a rhoi'r cwtsh a'r gusan mwyaf iddo. Rwyf mor ddiolchgar i'r tîm llawfeddygol. 

"Prynais flodau hefyd i'r nyrs yn fy meddygfa a wnaeth fy mhrawf ceg y groth. Achubodd y prawf hwnnw fy mywyd. 

"Rwy'n benderfynol y bydd rhywbeth da yn dod o'r profiad hwn. Rwy'n angerddol am godi ymwybyddiaeth o brofion ceg y groth ac yn ceisio dechrau sgyrsiau gyda menywod eraill - ffrindiau, cydweithwyr a theulu. O ganlyniad i rannu fy stori, mae saith menyw rwy'n eu hadnabod wedi trefnu eu prawf ceg y groth. 

"Wna i ddim gwadu bod canser wedi effeithio ar fy iechyd meddwl, ond dw i'n gwerthfawrogi pob dydd. Gall yr ôl effeithiau fod yn anodd, a dyna pam rwy'n credu ei bod mor bwysig gwneud amser i chi'ch hun a gorffwys pan fydd angen gorffwys arnoch chi. Er gwaethaf popeth, rydw i wedi ymdrechu’n galed iawn i aros yn bositif. Rwy'n atgoffa fy hun i werthfawrogi pob dydd a pharhau i wenu, hyd yn oed pan mae hynny’n teimlo'n anodd. 

"Mae'n bwysig ymladd a chredu ynoch chi'ch hun. Ac i unrhyw un nad ydynt wedi cael eu prawf ceg y groth eto - peidiwch â theimlo cywilydd. Byddwch yn ddewr ac ewch am brawf. Mae’n hynod bwysig.”