Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all wirfoddoli?

Ar gyfer y rhan fwyaf o'n rolau, mae angen i wirfoddolwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn. Mae rhai rolau yn gofyn i wirfoddolwyr fod yn 18 oed a hŷn.

Nid oes angen unrhyw sgiliau na phrofiad penodol arnoch. Y rhinweddau pwysicaf yw caredigrwydd, tosturi, ymrwymiad i gefnogi pobl, teuluoedd a staff, ac yn gyffredinol angerdd tuag at wella lles pobl.

Sut i gymryd rhan

Os hoffech wybod mwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’r tîm naill ai drwy ffonio 01495 768645 neu e-bostio ABB.Ffrindimi@wales.nhs.uk neu drwy lenwi a dychwelyd y ffurflen gais ganlynol.