Mae Huw wedi bod yn aelod o’r adran offthalmoleg ers Ionawr 2001. Cwblhaodd ei radd prifysgol yn 1980 a chyn ymuno â’r tîm bu’n gweithio fel optometrydd gofal sylfaenol am 20 mlynedd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn glawcoma a lensys cyffwrdd arbenigol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio tuag at y cymhwyster rhagnodi annibynnol gyda Phrifysgol Birmingham a Choleg yr Optometryddion.
Graddiodd Gillian o Brifysgol Manceinion ym 1992 a chymhwysodd fel optometrydd ar ôl blwyddyn cyn-gofrestru yng Nghaerdydd. Yn dilyn 10 mlynedd yn ymarfer optometreg mewn gofal sylfaenol ymunodd Gillian ag Adran Llygaid Ysbyty Brenhinol Gwent fel optometrydd ysbyty yn 2004. Mae'n gweithio'n rhan amser yn arbenigo mewn archwiliadau llygaid seicloplegig i blant.