Rydym yn cefnogi pobl mewn cyd-destunau amrywiol. Er enghraifft: hyfforddwyr rygbi, athrawon, swyddfa’r comisiynydd plant, gweithwyr cymorth, gweithwyr adsefydlu, staff meithrinfeydd, arweinwyr Girlguiding, arweinwyr Sgowtiaid, hyfforddwyr pêl-droed, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys, gwirfoddolwyr o fewn prosiectau cymunedol a rhieni. Rydym yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â’r rhai sydd â diddordeb mewn lles emosiynol plant.
Os ydych yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, neu deuluoedd yng Ngwent a’ch bod am dderbyn cymorth, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad ebost uchod. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, p'un a ydych yn weithiwr proffesiynol neu'n wirfoddolwr cymunedol.
Nid ydym yn derbyn cyfeiriadau uniongyrchol ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn hytrach, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r rhai sy’n chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant. Rydym yn cyfarfod â'r partner yn gyntaf er mwyn deall anghenion y plant a'r teuluoedd.
Yna rydym yn cynnig cymorth mewn sawl ffordd: