Mae tîm iPBS yn rhan o’r Llwybr Plant sydd ag Anghenion Ychwanegol. Rydym yn dîm therapi amlddisgyblaethol dwys sy’n canolbwyntio ar seicoleg ar gyfer nifer fechan o bobl ifanc (a'u teuluoedd a'u rhwydweithiau proffesiynol) sydd ag anabledd dysgu a/neu sy'n awtistig ac sydd ag anghenion cymhleth.
Rydym yn darparu asesiad amlddisgyblaethol, dealltwriaeth o anghenion cymhleth a chefnogaeth ar draws sawl lleoliad sy'n wynebu ansefydlogrwydd ac sydd mewn perygl o chwalu oherwydd cymhlethdod anghenion.
E-bost: ABB.IPBSTeam@wales.nhs.uk
Rhif Ffôn: 01633 748000
Cyfeiriad: Canolfan Blant Serennu
Cwrt Camlas
Rogerstone
Casnewydd NP10 9LY
Rydym yn darparu cefnogaeth therapiwtig ar berthnasoedd ac sy’n ystyriol o drawma o fewn fframweithiau Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol ac Ymarfer Datblygiadol Dyadig i gefnogi Rheoleiddio, meithrin Perthnasoedd ystyrlon a Rhesymu (meithrin sgiliau) ledled y system trwy hyfforddiant, ymgynghoriadau, cydweithio a chefnogaeth yn y fan a'r lle i rieni/gofalwyr, ysgolion a darpariaethau seibiant sy'n seiliedig ar seicoleg.
Credwn fod gan bawb hawl i: