Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Ddefnyddiol a Chwestiynau Cyffredin

Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith (SLT) yng Ngwent yn teilwra eu hymagwedd at eich anghenion felly byddant am glywed eich stori i benderfynu sut i'ch cefnogi chi, eich perthynas neu'ch plentyn.

Bydd yr SLT yn gofyn pam eich bod wedi dod i therapi lleferydd a beth rydych yn gobeithio ei gyflawni. Byddant yn gofyn sut mae eich bywyd (neu fywyd eich plentyn) yn cael ei effeithio, beth hoffech chi ei newid a beth sydd bwysicaf i'w newid ar hyn o bryd. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad gennych.

Weithiau efallai nad dyma’r amser iawn i chi (neu’ch plentyn) ymrwymo i therapi lleferydd ac iaith am eich rhesymau personol eich hun. Byddwch yn onest am hyn a byddwch yn ymwybodol os na fyddwch yn mynychu apwyntiadau heb roi gwybod i ni y byddwch yn cael eich rhyddhau.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os bydd eich manylion cyswllt yn newid.

Mae’n bosibl bod gennych chi neu’ch plentyn gyflwr y gwyddys ei fod yn effeithio ar leferydd, iaith neu lyncu. Mae yna sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol a gellir dod o hyd iddynt yn yr adran Cysylltiadau Defnyddiol isod.