Pan fydd eich gofal yn yr uned wedi'i gwblhau byddwch yn gallu mynd adref. Os bydd angen unrhyw driniaeth bellach, bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi a gall gynnwys dychwelyd i'r uned i gael adolygiad neu apwyntiad ar gyfer clinig yn ddiweddarach . Efallai y bydd adegau pan na fydd rhai cleifion yn gallu cael eu rhyddhau. Bydd hyn yn golygu y bydd staff yn eich trosglwyddo naill ai i un o'r unedau asesu neu'n uniongyrchol i'r ward ar gyfer gofal parhaus.