Neidio i'r prif gynnwy

Alcohol - Gwylio'ch Unedau

Meddwl am eich arferion yfed? 

Nid oes terfyn diogel ar gyfer alcohol ond mae canllawiau'n dweud, er mwyn cadw risgiau iechyd yn isel, mai'r peth mwyaf diogel yw peidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd. Mae 14 uned yn gyfwerth â: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Defnyddiwch Gyfrifiannell Unedau Alcohol Change UK i wirio faint o alcohol yr ydych yn ei yfed bob wythnos.   

Os ydych chi'n yfed 14 uned yr wythnos yn rheolaidd, gall gwneud newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i'ch iechyd. Gallwch leihau eich risg o salwch ac anafiadau sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy: 

  • ledaenu eich yfed yn gyfartal dros 3 diwrnod neu fwy 
  • cael sawl diwrnod heb alcohol bob wythnos 
  • cyfyngu ar faint o alcohol yr ydych chi'n ei yfed ar unrhyw achlysur.  
  • Yfed alcohol yn arafach, gyda bwyd, a bob yn ail â dŵr 

Mae mwyafrif y bobl yng Ngwent yn nodi eu bod yn yfed o fewn y canllawiau hyn, ac nid yw bron i 1 o bob 5 yn yfed unrhyw alcohol o gwbl. 

Mae yfed o fewn y canllawiau yn golygu eich bod yn llai tebygol o ddatblygu niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau hirdymor megis clefyd yr afu, clefyd y galon a strôc, yn ogystal â sawl math o ganser gan gynnwys canser y fron a chanser y coluddyn. Mae yfed llai o alcohol hefyd yn ffordd wych o hybu lefelau egni, gwella cwsg, ac arbed arian hefyd. 

Os hoffech chi leihau faint o alcohol rydych chi'n ei yfed, neu roi'r gorau i'w yfed yn gyfan gwbl, edrychwch ar ap Try Dry Alcohol Change UK sydd am ddim i olrhain faint yr ydych yn ei yfed a'ch helpu chi i gyflawni eich nod.  

Llwythwch i lawr ar gyfer Apple: TRY DRY: Yr ap Dry January ar yr App Store

Llwythwch i lawr ar gyfer Android: Try Dry: Dry January® a thu hwnt – Apiau ar Google Play

 

Mwy o wybodaeth a chefnogaeth 

Os ydych chi'n teimlo bod angen ychydig mwy o gefnogaeth arnoch i wneud newidiadau o ran faint o alcohol yr ydych yn ei yfed, neu os ydych chi'n poeni y gallech fod yn ddibynnol ar alcohol, mae GDAS - Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent, yn darparu gwasanaeth cyfrinachol am ddim i oedolion ar 03339993577. 

Dolen i dudalen Gymraeg GDAS: Hafan - Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent  

Os ydych chi’n iau na 18 oed ac yn chwilio am gymorth gydag alcohol, gallwch gysylltu â Gwent N-Gage ar 0333 320 2751. 

Dolen Gymraeg i N-gage: Gwent N-gage - Cartref  

Gall eich meddyg teulu hefyd roi cyngor a rhoi mynediad at wasanaethau. Os ydych chi'n feichiog, y dull mwyaf diogel yw peidio ag yfed alcohol o gwbl. Er mwyn sicrhau bod cyn lleied o risg â phosibl i chi a’ch babi,  siaradwch â’ch bydwraig i gael cymorth.    

Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn ddibynnol ar alcohol, mae'n bwysig nad ydych chi'n rhoi'r gorau i yfed nac yn lleihau faint yr ydych yn ei yfed yn sydyn. Yn lle hynny, ceisiwch gyngor ar sut i fynd ati i leihau'n ddiogel gan eich meddyg teulu, GDAS neu Gwent N-Gage.