Mae angen eich iechyd arnoch gydol eich oes, nid yn ystod mis Ionawr yn unig.
Sut mae mynd ati i osod nod?
Sut alla i ddefnyddio cefnogaeth pobl o'm cwmpas i’m helpu i lynu at arfer iach?
Sut mae cynllunio ar gyfer rhwystrau?
Boed yn ymwneud â rheoli pwysau iach, bod yn fwy heini neu bwyta bwydydd gwell, gall gosod nod a glynu ati fod yn anodd. Ond rydym am eich helpu i gyrraedd eich nodau.
Ar y dudalen hon byddwn yn ymdrin â sut y gallwch gynllunio i wneud newidiadau yn eich bywyd er mwyn rhoi eich iechyd yn gyntaf. Yn yr adran hon, rydym wedi gweithio gydag arbenigwyr ar draws ein bwrdd iechyd i ddod ag awgrymiadau, triciau a chyngor i chi ar sut i wneud newidiadau iach parhaol i'ch bywyd eleni.
Boed yn fwyta'n iach, bod yn actif, arbed arian, cymdeithasu, neu rywbeth arall – mae gennym yr holl awgrymiadau a chefnogaeth sydd ei angen arnoch ar osod nodau ac chreu arferion.
Cliciwch yma i weld ein cyfres fideo ar arferion iach a sut i gyflawni eich nodau yn 2024.