Mae gwasanaeth pwrpasol i bobl feichiog a’u partneriaid ar gael yn Helpa Fi i Stopio drwy gydol ac ar ôl beichiogrwydd. Gall bydwraig ddarparu rhagor o wybodaeth ac atgyfeiriad i Helpa Fi i Stopio.
Mae cymorth Mamolaeth Helpa Fi i Stopio yn cynnwys:
- Cefnogaeth trwy gydol y beichiogrwydd a hyd at 4 wythnos ar ôl genedigaeth
- Apwyntiadau wyneb yn wyneb mewn clinig cyn geni neu dros y ffôn
- Cefnogaeth i unrhyw oedolyn arall sy'n ysmygu sy'n byw yn yr un cartref
- Mynediad i feddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu trwyddedig am hyd at 12 wythnos e.e. clytiau ac un cynnyrch llafar ychwanegol fel gwm neu anadlydd