Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar Anweddu/ E-sigaréts ar gyfer Ysgolion a Cholegau yng Ngwent

Peidiwch â dechrau anweddu!

Mae ffigurau diweddar gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yn awgrymu bod nifer y plant a phobl ifanc o Went (11-16 oed) sy’n ysmygu yn parhau i ostwng – o 3.9% yn 2019 i 3% yn 2022.

Fodd bynnag, mae cynnydd wedi bod yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio e-sigaréts/ fêpio ar hyn o bryd. Yn y DU, mae cyfran y bobl ifanc 11–17 oed sy’n  fêpio ar hyn o bryd wedi cynyddu o 4% yn 2020 i 7% yn 2022. Mae data arolwg y SHRN yn dangos bod 5% o blant yng Nghymru yn fêpio bob wythnos.

Mae data SHRN yn dangos bod 21.3% o bobl ifanc (11-16 oed) wedi rhoi cynnig ar fêpio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru o 20.4%.

Er bod hyn yn destun pryder, mae'n werth nodi nad yw 97% o bobl ifanc erioed wedi ysmygu ac nid yw 95% ohonynt yn fêpio ar hyn o bryd - dim ond 5% o bobl ifanc ardal Gwent sy'n defnyddio e-sigaréts yn aml (SHRN).

Yr argymhelliad yw na ddylai plant a phobl ifanc, nac unrhyw un sydd heb ysmygu o’r blaen,  fêpio, gan na ellir gwneud hyn heb achosi niwed.  Yn y tymor byr, gall pobl ddioddef cur pen, dolur gwddf, pendro a pheswch. Er bod e-sigaréts wedi bod ar gael ers dros 15 mlynedd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth ar beth yw’r effeithiau hirdymor posib fêpio.  Ni ddylai ymennydd sy'n datblygu fod yn agored i nicotin. Mae’n peri risg o ddibyniaeth a gall fod yn gam tuag at ddefnyddio tybaco.


Mae sawl myth a chamsyniad ynglŷn â’r defnydd o e-sigaréts, yn enwedig gan blant a phobl ifanc. At hyn mae rhai siopau’n sy'n gwerthu e-sigarets yn hysbysebu eu bod yn 'rhydd o nicotin' er eu bod, mewn gwirionedd yn cynnwys, lefelau uchel o nicotin.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gweithio ar lefel genedlaethol i ddatblygu offer cymorth ac adnoddau ar gyfer lleoliadau addysgol. Fel mesur dros dro, mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan wedi cynhyrchu dogfen ganllaw a rhestr o adnoddau er mwyn annog ysgolion, colegau, a rhieni i gael sgyrsiau gyda phlant a phobl ifanc am fêpio/ ddefnyddio e-sigaréts fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Negeseuon Allweddol

  • Nid yw'r mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc yn ysmygu (97%) nac yn fêpio (95%) yng Ngwent.
  • Ystyrir e-sigaréts yn llawer llai niweidiol na thybaco, ond nid ydynt yn ddiberygl.
  • Yn ôl adroddiadau mae effeithiau tymor byr yn cynnwys peswch, pendro, dolur gwddf a chur pen, ac nid ydym yn gwybod beth yw’r effeithiau hirdymor eto.
  • Mae cyfyngiad oed ar e-sigaréts a chynhyrchion tebyg sy'n cynnwys nicotin ac mae'n anghyfreithlon eu gwerthu i blant a phobl ifanc sy’n iau na 18 oed.
  • Mae e-sigarets y gellir ei defnyddio untro yn unig yn niweidio'r amgylchedd. Mae llawer ohonynt yn anodd i’w hailgylchu ac felly’n cyrraedd safleoedd tirlenwi, lle maent yn torri i lawr ac yn rhyddhau cemegau peryglus.
  • Y neges gyffredinol i blant a phobl ifanc yw: Peidiwch â dechrau “fêpio”.

Mae'r dudalen we hon yn rhoi gwybodaeth i ysgolion yng Ngwent ar sut i fynd i'r afael ag anwedd a'i atal mewn pobl ifanc. Dewch o hyd i’r datganiadau a’r ymchwil diweddaraf isod wrth i ni fynd i’r afael â’r dystiolaeth ddiweddaraf ar y mater hwn sy’n lledaenu ar draws ein hysgolion.