Gallwch hefyd weld oriau agor fferyllfeydd ar wefan GIG 111 Cymru
Mae ymweld â'ch fferyllfa leol yn ffordd wych o gael cyngor a thriniaethau prydlon ar gyfer cyflyrau cyffredin.
Mae peth o'r gwaith a wneir yn draddodiadol gan feddygon teulu bellach yn cael ei wneud gan fferyllwyr hefyd. Gall hyn gynnwys rhoi meddyginiaeth sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig ar gyfer nifer o fân anhwylderau heb yr angen i weld meddyg.
Cynhelir ymgynghoriadau mewn ystafell breifat ac os bydd y fferyllydd yn penderfynu bod angen i chi weld meddyg o hyd byddant yn eich atgyfeirio.
Os ydych chi wedi rhedeg allan o feddyginiaeth ac yn ansicr beth i'w wneud, ewch i GIG 111 Cymru - Gwiriwch Eich Symptomau: Mynediad at Feddyginiaethau