Neidio i'r prif gynnwy

Haint y Llwybr Wrinol (UTI)

Mae ein holl fferyllfeydd cymunedol bellach yn cynnig gwasanaeth haint y llwybr wrinol (UTI) fel rhan o'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.

Os oes gennych symptomau haint y llwybr wrinol (UTI), ac os ydych yn fenyw nad yw'n feichiog rhwng 16 a 64 oed, gall y fferyllydd eich helpu i reoli'r cyflwr. Os bydd eu hangen arnoch, gall y fferyllydd hefyd gyflenwi gwrthfiotigau priodol. Felly bydd angen i chi fynd â sampl wrin bach gyda chi pan fyddwch chi'n ymweld â'r fferyllfa. Gall symptomau gynnwys llosgi wrth basio wrin, yr angen i basio wrin yn amlach neu wrin cymylog.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i https://111.wales.nhs.uk/, cliciwch y ddolen 'Gwasanaethau yn agos atoch chi', dewiswch 'Fferyllfa', nodwch eich cod post a dewiswch ‘Y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin' o'r rhestr hidlo ar yr ochr chwith.