Neidio i'r prif gynnwy

Llwnc Tost

Gall fferyllwyr hefyd reoli llwnc tost / dolur gwddf drwy'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.  Gall fferyllwyr asesu eich symptomau a lle bo'n briodol, cymryd swab o’ch gwddf. Bydd y prawf hwn yn dweud wrth y Fferyllydd a yw'r haint yn facterol neu'n feirysol ac a fydd gwrthfiotigau'n gweithio i chi.

A fydda i'n cael swab gwddf?

Bydd y Fferyllydd yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi er mwyn penderfynu a oes angen swab gwddf arnoch a chwblhau asesiad clinigol. Ni fydd angen swab gwddf ar bawb ac os yw eich atebion yn awgrymu ei bod yn debygol mai haint feirysol sydd arnoch, efallai na fydd angen swab. Os bydd angen swab, bydd angen i chi aros ychydig funudau i gael eich canlyniadau.

Beth sy'n digwydd os byddaf yn cael prawf positif?

Mae prawf positif yn golygu bod eich dolur gwddf yn debygol o gael ei achosi gan haint bacterol, ond nid yw hyn bob amser yn golygu bod angen gwrthfiotigau arnoch ac efallai mai addas fyddai ei reoli gyda chyffuriau lladd poen a chyngor yn unig, yn dibynnu ar eich symptomau. Bydd y Fferyllydd yn trafod y dewisiadau o ran rheoli eich dolur gwddf gyda chi.

Pryd Fydda i'n Gwella?

Bydd dolur gwddf (feirysol neu facterol) yn y rhan fwyaf o achosion yn gwella ar ei ben ei hun. Bydd 40% o achosion yn gwella o fewn 3 diwrnod a bydd 85% o achosion yn gwella o fewn 1 wythnos heb driniaeth.

A Fydd Gwrthfiotigau’n Helpu Fy Llwnc tost?

Mae'r rhan fwyaf o achosion o lwnc tost yn cael eu hachosi gan heintiau feirysol. Os felly, ni fydd gwrthfiotigau yn eich helpu i wella'n gyflymach, ond efallai y byddwch chi'n dal i gael sgîl-effeithiau. Gall cymryd gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen arnoch hefyd gynyddu eich siawns o ddatblygu ymwrthedd, sy'n golygu efallai na fyddant yn gweithio cystal pan fydd eu hangen arnoch. Dyma pam ei bod hi'n bwysig bod y Fferyllydd yn gwirio a oes eu hangen arnoch chi.

I gael rhagor o wybodaeth am ymwrthedd i wrthfiotigau ewch i Ymwrthedd i Wrthfiotigau - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales) 

Pwy NAD YDYNT yn Addas ar gyfer y Gwasanaeth Hwn?

Plant dan 5 oed. Pobl sydd â symptomau parhaus nad ydynt wedi gwella ar ôl 1 wythnos. Pobl sydd â system imiwnedd wan. Tymheredd uchel nad yw'n cael ei reoli â pharasetamol neu ibuprofen. Pobl sydd â chyflyrau meddygol penodol. Pobl sydd wedi cael 5 neu fwy episod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Os nad ydych chi'n siŵr, gofynnwch i aelod o dîm y Fferyllfa a dylent allu rhoi gwybod i chi a ydych chi'n addas. Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â symptomau dolur gwddf yn addas ar gyfer y gwasanaeth. Bydd y Fferyllydd yn eich atgyfeirio at eich Meddyg Teulu os ydych chi'n bodloni'r meini prawf uchod neu os ydyn nhw'n credu efallai bod gennych chi gyflwr mwy difrifol.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i https://111.wales.nhs.uk/, cliciwch y ddolen 'Gwasanaethau yn agos atoch chi', dewiswch 'Fferyllfa', nodwch eich cod post a dewiswch ‘Y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin' o'r rhestr hidlo ar yr ochr chwith.