Dw i'n chwilio am wybodaeth am:
Mae gan bob teulu sydd â phlant dan bump oed Ymwelydd Iechyd penodedig, a all gynghori rhieni/gofalwyr ar amrywiaeth eang o faterion iechyd a chymdeithasol. Nod y timau ymwelwyr iechyd yw i blant a'u teuluoedd fyw bywydau iach, yn gorfforol ac yn emosiynol a hyrwyddo iechyd y gymuned gyfan.
Mae Ymwelwyr Iechyd yn nyrsys cymwys, sydd â phrofiad ym maes iechyd plant, ac sy'n gweithio gyda ffocws ar hyrwyddo iechyd gyda'n gwasanaethau meddygol, cymdeithasol, addysgol a gwirfoddol. Mae bydwragedd, Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Ysgol yn cefnogi lles pob plentyn drwy gydol eu blynyddoedd tyfu.
Os oes angen i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd, ffoniwch ein llinell ffôn ganolog: 01633 431 685 i gael eich rhoi mewn cysylltiad â'n timau ledled Gwent.
Mae yna hefyd lu o wybodaeth, gwefannau a fideos defnyddiol ar y Linktree Ymwelwyr Iechyd.
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi’r amseroedd allweddol pan fyddwch yn cael cyswllt gan eich gwasanaeth ymwelwyr iechyd a nodir isod. Gall yr apwyntiadau hyn gael eu cynnal gartref, mewn clinig neu yn rhithiol.
Bydd y tîm yn eich galw i drefnu eich ymweliad geni cychwynnol ac mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi trwy neges destun ynglŷn â'ch apwyntiadau gyda'r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd. Felly mae'n bwysig bod gennym rif ffôn symudol cyfredol i gysylltu â chi arno.
Ffoniwch 01633 431 685 i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni gydag unrhyw newidiadau i’ch gwybodaeth gyswllt neu os oes angen i chi aildrefnu unrhyw apwyntiadau.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Dilynwch y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ar Facebook, Instagram a YouTube am y diweddariadau diweddaraf yn rheolaidd