Mae'r hyn sy'n digwydd yn ystod blynyddoedd cyntaf eich babi yn cael effaith fawr ar ba mor iach fydd ef neu hi yn y dyfodol. Mae llaeth mam yn rhoi'r holl faetholion sydd eu hangen ar eich babi am oddeutu'r 6 mis cyntaf o fywyd (ac mae'n bwysig y tu hwnt i 6 mis hefyd). Mae'n helpu i amddiffyn eich babi rhag heintiau a chlefydau eraill, ac fel mam, mae hefyd yn lleihau eich siawns o gael rhai afiechydon yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae bwydo ar y fron hefyd yn eich helpu chi a'ch babi i ddod yn agosach at eich gilydd – yn gorfforol ac yn emosiynol. Felly, wrth i chi fwydo'ch babi, mae'r cysylltiad rhyngoch chi'n cryfhau. Mae fformiwla babanod wedi'i gwneud o laeth buwch a chynhwysion eraill. Nid yw'n cynnwys y cynhwysion sy'n helpu i amddiffyn eich babi rhag haint a chlefyd. Dim ond eich corff all wneud y rheini.
Gall Tîm Bwydo Ymatebol ABUHB ddarparu cymorth bwydo i rieni a chynnal grwpiau bwydo rheolaidd ledled y 5 bwrdeistref. Mae’r holl fanylion isod, gall rhieni ddod i unrhyw un o’r grwpiau isod, nid dim ond y rhai yn eu hardal.
Mae yna hefyd lu o wybodaeth, gwefannau a fideos defnyddiol y gallwch chi eu cyrchu ar y Linktree Bwydo Ymatebol
Gwybodaeth a chymorth bwydo ar y fron ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Ffoniwch y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron ar: 0300 100 0212
Mae'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron yn cynnig cymorth a gwybodaeth gyfeillgar, ddi-farn, annibynnol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i unrhyw un yn y DU sydd ei angen. Darperir y llinell gymorth gan y Rhwydwaith Bwydo ar y Fron a Chymdeithas y Mamau sy'n Bwydo ar y Fron.
Safleoedd Bwydo ar y Fron
Mae yna lawer o wahanol safleoedd ar gyfer bwydo ar y fron. Gofynnwch i'ch bydwraig eich helpu i ddod o hyd i ba safle sy'n teimlo orau i chi a'ch babi.
Pan fydd eich babi mewn safle da, gall lynu'n gywir wrth y fron a bwydo'n effeithiol. Mae'n bwysig dod o hyd i safle lle mae'ch bron yn hongian yn naturiol ac i roi'ch babi yn agos. Efallai y byddwch chi'n gweld bod y safle 'ymlaciol' yn gyfforddus - ac yn ddefnyddiol yn y dyddiau cynnar, os oes gennych chi a'ch babi anhawster glynu.
Mae'r fideo hwn yn mynd trwy'r pum safle bwydo ar y fron (Saesneg yn unig)
Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron
Rydym yn chwilio am fusnesau ac adeiladau ledled Gwent i ddod yn lleoliadau 'Croeso i Fwydo ar y Fron'. Nod y 'Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron' yw hybu, amddiffyn a chefnogi hawl rhieni i fwydo ar y fron yn gyhoeddus, a chynyddu derbynioldeb bwydo ar y fron fel gweithgaredd arferol.
Beth yw'r manteision i'm busnes / safle?
Yn ogystal â chefnogi hawl gyfreithiol rhieni i fwydo ar y fron yn gyhoeddus, mae bod yn rhan o’r cynllun yn cynnig nifer o fanteision i fusnes/safle:
Sut gall fy musnes neu fy safle gymryd rhan?
Os hoffai eich busnes/safle ddod yn Lleoliad Croesawu Bwydo ar y Fron, cofrestrwch yma: Cofrestrwch Croeso i Fwydo ar y Fron