Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cerdyn-C Gwent

 
 

 

 

 

 

 

Beth sy'n digwydd ym mhwynt Cerdyn C?

Gellir cael sgwrs gydag asesydd Cerdyn C cymwysedig ynglŷn â pherthnasoedd, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, sut i ddefnyddio condom ac ati.  Gall hefyd roi condomau i ti.

 

 

 


A yw Cynllun Cerdyn-C Gwent yn gyfrinachol?

Mae’r wybodaeth mae’r person ifanc yn ei rhoi yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhoi i unrhyw un arall. Mae’n bosibl y bydd angen i’r asesydd siarad â rhywun arall os yw’n meddwl bod person ifanc mewn perygl, ond bydd bob amser yn ceisio siarad â’r person ifanc cyn gwneud hyn.

Os wyt ti’n poeni am hyn, trafoda gyda’r asesydd Cerdyn C cyn rhoi’r wybodaeth.


Rwy’n weithiwr proffesiynol sy’n awyddus i gynnig cynllun Cerdyn C Gwent i bobl ifanc rwy’n gweithio gyda nhw.  Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno'r Cynllun Cerdyn C neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at gwent.ccard@wales.nhs.uk