Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau/Diweddariadau i'r Gwasanaeth Deintyddol

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddarparu Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS) i breswylwyr ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae'n comisiynu gwasanaethau gan gontractwyr annibynnol drwy Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Cyffredinol/ Deintyddol Personal) (Cymru) 2006. 

Mae 69 o Bractisau Deintyddol Cyffredinol sy'n darparu gofal deintyddol i gleifion, fel arfer rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Ers 2006, nid yw cleifion wedi'u "cofrestru" gyda phractis deintyddol. Cyfrifoldeb y claf yw mynychu eu hapwyntiad deintyddol ac efallai y bydd angen i gleifion fynychu'r practis deintyddol i gael gofal deintyddol unrhyw amser rhwng 3 mis a 24 mis. Fodd bynnag, bydd tîm y practis deintyddol yn cynghori cleifion ar ba mor rheolaidd y dylent fynychu apwyntiadau. Os nad ydych chi'n mynychu practis deintyddol yn rheolaidd a bod angen gofal deintyddol brys arnoch, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Deintyddol ar 01633 744387 neu e-bostiwch  ABB.Dental.Helpline@wales.nhs.uk, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am-12:15pm a 1:15pm-4:00pm. Dylai cleifion fod yn ymwybodol, os ydynt yn ffonio'r Llinell Gymorth Deintyddol am ofal deintyddol brys gyda'r nos (6.30pm-8am), dim ond cyngor y byddant yn ei dderbyn gan nad oes apwyntiadau deintyddol ar gael yn ystod yr amser hwn. Yn ystod penwythnosau a gwyliau’r banc, gall cleifion hefyd ffonio’r Linell Cymorth Deintyddol ac mae nifer gyfyngedig o apwyntiadau brys ar gael yng Nghanolfan Iechyd a Lles 19 Hill, Ringland ac/neu gellir cael cyngor. Gall cleifion hefyd fynd i'w fferyllfa gymunedol leol i ofyn am feddyginiaeth lleddfu poen a chyngor ar feddyginiaeth dros y cownter.

Os bydd y Bwrdd Iechyd yn derbyn cais i newid gwasanaeth, bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried yr holl opsiynau ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Deintyddol Lleol Gwent a chorff llais y dinasyddion, Llais.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau deintyddol, ewch i Ddeintydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)

 

Nid yw'r practisau deintyddol isod yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion mwyach:

  • Lodge Dental, Torfaen – o 1 Medi 2025
  • Forest Dental, Caerffili – o 8 Rhagfyr 2025
  • Edwards Family Dental Health Centre, Torfaen – 1 Ionawr 2026

Ni fydd y practisau deintyddol canlynol yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion o 1 Ebrill 2026 ymlaen:

  • Practis Deintyddol Chepstow Road, Casnewydd
  • 94 Dental, Casnewydd
  • Teeth For Life, Sir Fynwy
  • Cwmbran Dental Spa, Torfaen
  • Crown Cottage Dental, Caerffili
  • Thomas & Stroud Dental, Casnewydd 
  • Devon Place Dental, Casnewydd 

Gofynnir i gleifion yr effeithir arnynt gofrestru eu manylion ar y Porth Mynediad Deintyddol.

Porth Mynediad Deintyddol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Bydd y Porth Mynediad Deintyddol yn darparu llwyfan canolog i Fyrddau Iechyd ddyrannu lleoedd i gleifion ar gyfer triniaeth ddeintyddol arferol ym mhractisau deintyddol y GIG. Bydd hyn yn gwneud y broses o gael mynediad yn symlach ac yn decach i bawb.